Canllaw i siopau dros dro
Rydym yn cefnogi masnachwyr lleol ac yn ceisio lleihau’r nifer o adeiladau gwag ar strydoedd mawr y fwrdeistref sirol drwy ein menter Siopau Dros Dro.
Pam dewis y Stryd Fawr?
Y stryd fawr yw calon y gymuned leol o hyd, lle mae pobl yn cwrdd a busnesau newydd yn cychwyn. Os ydych wastad wedi breuddwydio am gychwyn eich busnes eich hun, neu os oes gennych syniad am broject cymunedol yr hoffech ei drio, pam nad "Dewis y Stryd Fawr" ac agor uned dros dro.
Unedau Dros Dro – Beth yw nhw?
Mae uned dros dro yn un y cytunir ar brydles byr dymor gan landlord a busnes neu broject cymunedol. Bydd hyn yn galluogi’r busnes neu broject i ddefnyddio adeilad am gyfnod byr (am lai na chwe mis fel arfer). Er mai fel siopau y mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am unedau dros dro, gallant gael eu defnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau, gan cynnwys orielau celf a phrojectau cymunedol.
Mae siopau dros dro hefyd yn gallu bod yn gyfle gwych i roi tro ar fusnes newydd i weld a yw’r cysyniad yn dal dŵr cyn ymrwymo am gyfnod hir. Gallan nhw hefyd roi cyfle i brojectau cymunedol ac elusennau gyrraedd cynulleidfa eang, tra hefyd yn gwneud stryd fawr y trefi yn fannau mwy bywiog.
Gall siopau dros dro fod o fudd i landlord os ydynt yn creu incwm rhent bychan dros gyfnod y les, a gwneud pobl yn ymwybodol fod yr adeilad ar gael i denantiaid yn y dyfodol.
Canllaw i siopau dros dro
Canllaw Siopau Dros Dro (PDF)