Dyddiad : 14 Mehefin 2024 10:00am
Lleoliad : Canol tref Caerffili, CF83 1JL
Gŵyl Flodau Caerffili 2024
Dydd Gwener 14 - Dydd Sul 16 Mehefin 2024 - 10am - 4pm
Arddangosfa flodeuog flynyddol Caerffili wedi’i chynnal gan 8 eglwys leol, Canolfan Gymunedol y Twyn a Llyfrgell Caerffili.
Ac yntau wedi’i sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl ac yn dal i ffynnu gydag ymwelwyr o bob rhan o Dde Cymru, mae’r digwyddiad eleni hefyd yn cyd-ddigwydd â Pride Caerffili.
Y lleoliadau sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad eleni yw:
- Eglwys Ddiwygiedig Unedig Van Road
- Eglwys Martin Sant
- Eglwys Fethodistaidd Wesley
- Eglwys Bentecostaidd Connect Life
- Eglwys Gatholig y Santes Helen
- Capel yr Annibynwyr Bethel
- Eglwys Santes Catherine
- Eglwys Bedyddwyr Mount Carmel
Bydd Canolfan Gymunedol y Twyn a Llyfrgell Caerffili yn cynnal arddangosfeydd gan Gymdeithas Flodau Caerffili, Cymdeithas Arddwriaethol a Chlwb Bonsai Glynderi.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Tref Caerffili.