Byw â Chymorth

Mae ein cynllun byw â chymorth yn cynnig cymorth 24 awr y dydd i unigolion ag anableddau dysgu, gan eu helpu nhw i fyw bywydau cyflawn yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Mae gennym ni 7 eiddo ledled Caerffili fel rhan o'r cynllun, sy'n darparu ar gyfer oedolion ag anghenion amrywiol, anableddau dysgu dwys a lluosog, anghenion corfforol, iechyd meddwl a salwch sy'n gysylltiedig â'r henoed a gofal diwedd oes.

Rydyn ni'n cynorthwyo unigolion i gael rheolaeth dros eu bywydau pob dydd a chael ffordd o fyw sy'n adlewyrchu eu personoliaeth.

Mae gennym ni dimau o staff gofal cymdeithasol parhaol yn gysylltiedig â phob eiddo, sydd wedi ymgymryd ar hyfforddiant, dysgu, a datblygu i'w galluogi nhw i gyflawni eu rolau.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.