Teleofal

 

Mae ein Gwasanaeth Teleofal (a elwir yn larwm cymunedol) yn darparu gofal drwy dechnoleg i gynorthwyo unigolion i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol o fewn eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i aelodau o’r teulu a gofalwyr.

Mae system Teleofal sylfaenol yn cynnwys uned sylfaen Lifeline sydd wedi’i gosod yng nghartref defnyddiwr y gwasanaeth ac yn gallu cael ei hactifadu o bell gan ddefnyddio botwm sy’n cael ei wisgo o amgylch y gwddf neu ar yr arddwrn.

Unwaith y bydd y larwm wedi’i actifadu, bydd yn cysylltu â gweithredwr yn ein canolfan fonitro ni yng Nghaerffili. Gall y gweithredwr siarad â’r galwr drwy’r seinydd a’r meicroffon yn yr uned sylfaen er mwyn deall pa gymorth sydd ei angen.

Byddan nhw wedyn yn trefnu’r cymorth hwnnw, sy’n gallu cynnwys galw aelod o’r teulu, ffrind, meddyg teulu neu’r gwasanaethau brys. Os nad ydyn nhw’n cael ymateb, byddan nhw’n dal i drefnu cymorth.

Mae opsiynau ychwanegol ar gael yn amodol ar asesiad sy’n seiliedig ar anghenion, megis synwyryddion cwympo neu larymau mwg.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwasanaeth teleofal i chi’ch hun neu aelod o’ch teulu chi, ffoniwch y Gwasanaethau Teleofal am becyn gwybodaeth ar 01443 873663 neu anfon e-bost at llinellofalcaerffili@caerffili.gov.uk

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.