Therapi galwedigaethol

 

Os ydych chi’n gweld bywyd o ddydd i ddydd yn mynd yn fwy anodd, rydyn ni yma i helpu pobl o bob oedran sydd ag anabledd corfforol a/neu nam ar y synhwyrau.

Rydyn ni’n gweithio gyda gofalwyr i roi cyngor ac offer yn ogystal â hyrwyddo a darparu’r cyfle i blant ac oedolion sy’n cael eu hasesu gan y tîm Therapi Galwedigaethol i fyw bywydau mor llawn, actif ac annibynnol â phosib yn eu cymunedau dewisol.

Ein nod ni yw helpu pobl i adennill, datblygu ac adeiladu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu annibynnol, iechyd a lles.

Gall hyn ddigwydd drwy ddysgu technegau newydd, darparu offer neu addasiadau.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen ein cymorth ni, mae rhagor o wybodaeth ar Cyfarpar ac addasiadau.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.