Cysylltu bywydau

Mae Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn cynnig gwasanaeth unigryw wedi’i leoli yn y gymuned ar gyfer oedolion sydd angen gofal a chymorth.

Rydyn ni’n paru unigolion gyda gofalyddion Cysylltu Bywydau cydnaws sy’n cynnig rhannu eu cartrefi, eu teulu a’u bywydau cymunedol.

Mae ein gofalwyr yn dod o bob cefndir ac yn dewis gofalu am ystod eang o resymau. Maen nhw’n cael eu cysylltu drwy eu hymrwymiad brwdfrydig a’u cymhelliant cadarnhaol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Mae sawl math gwahanol o leoliad Cysylltu Bywydau sy’n addas i anghenion pob unigolyn; hirdymor, seibiant, cymorth sesiynol a brys.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am y cynllun Cysylltu Bywydau, cysylltwch â Chynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru.