Gofal preswyl i oedolion

Efallai y daw amser pan fydd angen i chi wneud penderfyniad i symud i gartref gofal preswyl neu efallai y bydd rhaid i chi wneud penderfyniad er budd gorau aelod o’ch teulu chi.

Yng Nghaerffili, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein hymgais ni i wneud trigolion deimlo’n gartrefol ac rydyn ni’n ymdrechu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chyfeillgarwch rhwng trigolion a’u teuluoedd.

Mae pob dydd yn wahanol ac rydyn ni’n credu bod cadw’n brysur ac yn actif yn ehangu annibyniaeth a lles ein trigolion. Rydyn ni’n cynllunio gweithgareddau cyson ac rydyn ni bob amser yn annog hobïau ac yn edrych am gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ein trigolion.

Mae gennym ni chwe chartref ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd i gyd yn ymdrechu i ddarparu gofal o’r safon uchaf.

Mae gennym ni sawl opsiwn a gwasanaeth gofal ar gael i drigolion.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.