Siop Goffi Parc Islwyn

Mae Siop Goffi Parc Islwyn yn cael ei rhedeg gan staff ochr yn ochr ag unigolion ag anableddau dysgu. Cafodd ei chreu er mwyn helpu’r unigolion hynny i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn amgylchedd diogel.

Rydyn ni'n gwerthu paninis a brechdanau yn ogystal â chacennau a choffi. Mae’r cacennau’n cael eu creu gan gwmni Arlwyo Islwyn, lle maen nhw’n pobi’r cacennau sy’n cyflenwi’r siop goffi. Mae llawer o’r unigolion sy’n gweithio yn y siop goffi hefyd yn mynychu sesiynau yn Arlwyo Islwyn.

Rydych chi'n gallu dod o hyd i Siop Goffi Parc Islwyn ar Heol Llanarth, Pontllan-fraith ger y parc sglefrio. Felly dewch i ymweld â ni am groeso cynnes a dewis hyfryd o fwyd a diodydd.>

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.