Mae’r Tîm Cymorth ac Ailalluogi (HART)


Mae’r Tîm Cymorth ac Ailalluogi (H.A.R.T) yn wasanaeth gan Awdurdod Lleol Caerffili. Mae’r tîm yn rhan o’r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) sydd â thair prif swyddogaeth.

Cymorth Cartref – Mae staff gofal yn cynorthwyo unigolion o fewn y gymuned sydd angen cymorth gyda thasgau dyddiol er mwyn iddyn nhw barhau i fod mor annibynnol â phosibl o fewn eu cartref eu hunain.

Ailalluogi – Mae staff yn cynorthwyo unigolion i ddilyn cynlluniau cymorth ailalluogi penodol gyda’r nod o ailsefydlu unigolion yn ôl i sefyllfa annibynnol.

Gofal Brys – Ymateb mewn amser cyfyngedig i unigolion a’u teuluoedd yn y gymuned sydd wedi cyrraedd sefyllfa argyfwng ac sydd angen gofal a chymorth ar unwaith.

I weld pa gymorth allai fod ar gael i chi, ewch i dudalen we meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth gan wasanaethau cymdeithasol i oedolion.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.