Gofalu am rywun
Os ydych chi’n gofalu am rywun sy’n annwyl i chi, boed yn aelod o’ch teulu chi, yn ffrind neu’n gymydog, mae Tîm Gofalwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yno i’ch cynorthwyo chi.
Gallwch chi gael asesiad gofalydd, sy’n gyfle i chi siarad am beth sy’n bwysig i chi o ran eich rôl ofalu chi.
Rydyn ni’n hwyluso grwpiau misol ledled y Fwrdeistref fel bod modd i ofalwyr gwrdd ag eraill a sgwrsio â ni, ac rydyn ni’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ofalwyr.
Mae modd i ni ddarparu cerdyn argyfwng, cynllun grantiau bach, hyfforddiant a mwy i chi hefyd.
Mae gennym ni ddau grŵp preifat ar Facebook lle gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am unrhyw ddigwyddiad sydd ar y gweill a dod o hyd i’r cymorth y mae gennych chi hawl iddo.
Cael help a chymorth
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i oedolion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.