Partneriaid

Sgiliau Gwaith i Oedolion

Mae prosiect Sgiliau Gwaith i Oedolion 2 yn darparu mynediad at ystod eang o gyrsiau RHAD AC AM DDIM a'r cyfle i gael cyngor ac arweiniad gan dîm o swyddogion cymorth cyflogaeth, i wella cyfleoedd i weithwyr sgiliau isel.

Pontydd i Waith 

Mae Pontydd i Waith 2 yn brosiect cyffrous ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i helpu pobl i gael gwaith.

Mae’r tîm yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i geiswyr gwaith dros 25 oed ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cymorth Cyflogaeth Adfywio Cymunedol

Mae ein Tîm Cymorth Cyflogaeth yn darparu mentora un i un a chymorth cyflogaeth yn y gymuned, gan helpu pobl i hyfforddi ac uwchsgilio, a'u grymuso i feithrin yr hyder a’r profiad sydd eu hangen arnyn nhw i ymgeisio am eu swyddi delfrydol.

Peidiwch â phoeni am feini prawf cymhwyster, bydd ein gweithwyr brysbennu yn pwyso a mesur hyn i chi a bydd un o aelodau ein tîm neu bartner bob amser yn gallu helpu. 

Ymweld â'n llyfrgelloedd

Mae llyfrgelloedd yma i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch chi i greu, dysgu ac archwilio.

Mae gennym ni 18 o lyfrgelloedd ledled y sir a staff cyfeillgar a gwybodus wrth law i gynnig cymorth a chyngor.

Gofalu am Gaerffili

Bydd tîm ‘Gofalu am Gaerffili’, tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu cydgysylltu ac ymateb canolog newydd i drigolion y Fwrdeistref Sirol hynny sydd angen cymorth ar gyfer materion fel tlodi bwyd, ôl-ddyledion dyled neu rent, unigedd neu unigrwydd. 

Nod ‘Gofalu am Gaerffili’ yw cynnig un pwynt cyswllt i’r unigolyn gyda'r tîm, a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn hwnnw i fynd at wraidd ei fater, gan olygu mai dim ond unwaith y bydd angen iddo egluro ei sefyllfa.