Rhentu Cartrefi
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni anfon gwybodaeth atoch chi am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) sy'n golygu y bydd eich cytundeb tenantiaeth presennol yn troi'n gontract meddiannaeth ar 1 Rhagfyr eleni.
Nid oes angen i chi wneud dim; bydd eich cytundeb tenantiaeth yn troi yn awtomatig i'r contract newydd.
Mae'n rhaid i'r Cyngor roi copi o'r contract newydd i chi o fewn chwe mis i'r dyddiad troi (felly, o fewn chwe mis i 1 Rhagfyr 2022). Y cynllun ar hyn o bryd yw anfon y contractau newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Er mwyn sicrhau bod y contractau’n mynd at y person cywir a’u bod yn cael eu darparu mewn ieithoedd a fformatau gwahanol, a fyddech cystal â llenwi eich manylion cyswllt gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.
Mae'n bosibl y bydd hi'n cymryd nifer o wythnosau i roi'r wybodaeth yn ein system TG, felly, efallai y bydd rhywfaint o ohebiaeth yn y cyfamser nad yw'n cyfateb i'ch dewisiadau.
Fe welwch wybodaeth am breifatrwydd/prosesu data ar ddechrau'r ffurflen.
Gwybodaeth Tai