News Centre

Hwb o £440k i gymorth busnes

Postiwyd ar : 10 Hyd 2023

Hwb o £440k i gymorth busnes

Mae bron i hanner miliwn o bunnoedd o gyllid ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi yng Nghronfa Fenter Caerffili yn dilyn penderfyniad gan Fwrdd Cronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Caerffili.

Mae’r cyllid, a fydd yn cael ei rannu o £370k o gyfalaf a £70k o refeniw, wedi’i warantu i gynorthwyo busnesau bach a chanolig sydd wedi gwneud cais am gymorth drwy’r cynllun poblogaidd.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd.

“Ar ôl ymweld â busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol, mae’n amlwg bod y gronfa hon wir yn cynnig cymorth mewn termau real. Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaeth Cronfa Fenter Caerffili roi cymorth ariannol i 78 o fusnesau, gan gyfrannu at greu 149 o swyddi a helpu i ddiogelu 426 o swyddi. Rydyn ni am fynd ymhellach drwy gynyddu ein cymorth, yn enwedig o ystyried y sefyllfa economaidd heriol iawn.”

Dywedodd Keiran Russell, Prif Swyddog Gweithrediadau, Canolfan Arloesi Menter Cymru:

“Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru yn awyddus i weld estyniad i’r gronfa fenter, ar ôl gweld yn uniongyrchol ei heffaith ar fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghaerffili. Mae’n rhoi cyfle i bobl leol gyflawni eu syniadau'n gyflymach, dechrau cynhyrchu incwm neu ehangu ar eu llwyddiant presennol. Mae’r gronfa yn hynod boblogaidd ac rydyn ni'n croesawu unrhyw ehangu, gan gynnig cyfleoedd ychwanegol i entrepreneuriaid”.

I bob busnes sydd â diddordeb, cysylltwch â busnes@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion ymgeisio.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau