News Centre

Ffos Caerffili yn croesawu gweithredwr newydd

Postiwyd ar : 06 Hyd 2023

Ffos Caerffili yn croesawu gweithredwr newydd

Heddiw, enwodd Cyngor Caerffili Brigadoon Ffos Cyf fel gweithredwr newydd Ffos Caerffili. Ar ôl llwyddo i reoli Corporation Yard yn Nhreganna, Caerdydd, Tramshed a Neuadd y Dref Aberpennar, maen nhw ar fin rhoi ei arbenigedd i ddatblygiad marchnad newydd Ffos Caerffili.

Ar ôl ymgysylltu â masnachwyr y dyfodol sy’n paratoi ar gyfer y Nadolig, mae penderfyniad ar y cyd rhwng Brigadoon Ffos Cyf a’r cyngor wedi’i wneud i agor Ffos Caerffili ym mis Ionawr 2024.

Disgwylir i'r safle gael ei gwblhau ym mis Tachwedd, a bydd lle i 28 o fasnachwyr. Bydd hyn yn cynnwys mannau gwerthu bwyd a diod, darparwyr nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â swyddfeydd hyblyg a mannau cydweithio. Bydd stondinau cynwysyddion llongau arloesol yn cael eu rhoi yn eu lle erbyn diwedd mis Hydref.

Dywedodd Grant Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Brigadoon Ffos Cyf, 
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i weithio ar y prosiect newydd a chyffrous hwn, ei reoli a’i ddatblygu, a bod yn rhan o’r weledigaeth hirdymor a osodwyd gan Gaerffili 2035.

“Byddwn yn dod â’n dros 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd mewn rheoli lleoliadau, prosiectau, digwyddiadau, marchnadoedd ac eiddo at y bwrdd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda masnachwyr lleol, cwsmeriaid, a chymunedau i gynhyrchu arlwy amrywiol ac unigryw yng nghanol tref mor hardd a hanesyddol.

“Rydym nawr yn siarad â busnesau lleol sy’n awyddus i ymuno â ni i sefydlu safle nodedig a modern a fydd yn gwasanaethu’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym yn croesawu busnesau lleol – beth bynnag fo’u hanghenion – i gysylltu â ni ar hello@ffoscaerffili.com i drafod eu diddordeb.”

Mynegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor frwdfrydedd ynghylch cynnydd y prosiectau, gan ddweud: “Mae’r ymateb rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn gan fasnachwyr a thrigolion lleol wedi bod yn hynod gadarnhaol, felly mae’n bwysig ein bod yn cymryd amser i sicrhau ein bod yn cael y cymysgedd cywir o fusnesau o fewn y farchnad i wneud y mwyaf o’r buddion economaidd i’r dref.”

Meddai eto, “Rydym wedi gwrando'n ofalus ar adborth y darpar fasnachwyr yn ogystal â'n gweithredwr marchnad ac rydym yn cytuno'n llwyr mai dyddiad agor ym mis Ionawr fydd yr opsiwn call. Roedd ein hamserlenni’n uchelgeisiol i gyflawni’r datblygiad newydd cyffrous hwn, ond mae’n bwysig i ni gael popeth yn iawn a lansio’r farchnad orau bosibl.”

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard, “Mae’n wych gweld cymaint o ddiddordeb yn Ffos Caerffili ac edrychwn ymlaen at weld ymwelwyr â’r dref yn gallu cael mynediad at gymysgedd amrywiol a phoblogaidd o fusnesau sy’n gweithredu o’r safle marchnad blaenllaw newydd hwn.”

Mae datblygiad marchnad Ffos Caerffili yn rhan annatod o gynllun creu lleoedd uchelgeisiol ‘Tref Caerffili 2035’ – partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/



Ymholiadau'r Cyfryngau