News Centre

Digwyddiad swyddi gwag byw poblogaidd ‘Pa Ffordd Nawr?’ yn dychwelyd am yr ail waith eleni yn dilyn llwyddiant blaenorol

Postiwyd ar : 12 Hyd 2023

Digwyddiad swyddi gwag byw poblogaidd ‘Pa Ffordd Nawr?’ yn dychwelyd am yr ail waith eleni yn dilyn llwyddiant blaenorol
Bydd y digwyddiad poblogaidd, ‘Pa Ffordd Nawr?’, sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn dychwelyd ar 25 Hydref 2023.

Yn y gorffennol, mae'r digwyddiad wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Y tro hwn, bydd y digwyddiad ar agor i unrhyw aelod o'r cyhoedd dros 16 oed sy'n ddi-waith neu'n chwilio am swydd sydd eisiau rhywfaint o wybodaeth a chyngor, rhwng 10am ac 1pm.

Mae ‘Pa Ffordd Nawr?’ mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, ac yn cael ei drefnu ar y cyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhaglenni Cyflogadwyedd Caerffili, sydd â'r nod o helpu disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol a phobl ifanc sy'n chwilio am gyngor ac ysbrydoliaeth o ran pa lwybr gyrfa i'w gymryd nesaf. Mae hefyd yn anelu at gael pobl ifanc i ganolbwyntio ar arholiadau sydd ar ddod ac yn dangos gyrfaoedd posibl iddyn nhw.

Bydd amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn bresennol, a byddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o gyngor, hyfforddiant, cyfleoedd gwaith a hyd yn oed rai cyfleoedd ar gyfer cyfweliadau ar yr un diwrnod.

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn i'w ddisgwyl ar y diwrnod:
 
  • Gwybodaeth am gyrsiau yn y coleg gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gwent
  • Gwybodaeth am addysg uwch a chyfleoedd prifysgol
  • Gwybodaeth am brentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru Plws
  • Swyddi gwag lleol
  • Cyngor cyffredinol o ran gyrfaoedd
  • Cymorth o ran sgiliau chwilio am swydd
  • Cyfweliadau ar yr un diwrnod

Bydd DJ yn chwarae cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd, a bydd raffl hefyd i'r rhai sy'n bresennol gymryd rhan ynddi am gyfle i ennill aelodaeth hamdden am ddim am fis.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r Warant i Bobl Ifanc, sef ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai pawb o dan 25 oed yn cael cynnig cymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Yn dilyn ein llwyddiant ni mewn blynyddoedd blaenorol, rydw i'n falch ein bod ni'n gallu cynnal y digwyddiad ‘Pa Ffordd Nawr?’ am yr ail waith yn 2023 ochr yn ochr â Gyrfa Cymru, gyda'r digwyddiad ar agor y tro hwn i unrhyw un dros 16 oed. Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i roi mynediad at gyfleoedd addysg a chyflogaeth i bob person ifanc yn y Fwrdeistref Sirol.”

Bydd y digwyddiad ‘Pa Ffordd Nawr?’ yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerffili ddydd Mercher 25 Hydref rhwng 10am ac 1pm.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â John Poyner ar 01443 864970 neu e-bostio poynej@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau