News Centre

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygiadau tai blaenllaw Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 12 Hyd 2023

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer datblygiadau tai blaenllaw Cyngor Caerffili
Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer dau ddatblygiad tai blaenllaw yn Oakdale a Rhisga.
 
Fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymeradwyo ceisiadau materion a gedwir yn ôl ar gyfer y ddau safle, yn ystod cyfarfod ar 11 Hydref.
 
Mae’r ddau safle’n cael eu datblygu gan dîm Cartrefi Caerffili’r Cyngor, fel rhan o’i raglen ddatblygu uchelgeisiol. Ar 18 Hydref, bydd gofyn i Gabinet Caerffili gymeradwyo cynigion ar gyfer datblygu safleoedd Oakdale a Rhisga, gan gynnwys llofnodi Cytundeb Cyflawni gyda’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon a llunio cynllun gwerth cymdeithasol.
 
Bydd Oakdale yn elwa ar ddatblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw o 92 o gartrefi newydd sy’n cael eu darparu ar safle segur yr hen Ysgol Gyfun. Bydd aelodau’r Cabinet hefyd yn ystyried cynnwys cynllun byw bywyd hŷn ar y safle a fydd, os yw'n cael ei gymeradwyo, yn golygu adleoli preswylwyr o gynllun tai lloches Tŷ Melin y Cyngor yng Nghroespenmaen.
 
Mae cynllun byw bywyd hŷn 45 o unedau arloesol hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer datblygiad Rhisga, a fydd yn cael ei ddarparu ar hen safle cartref gofal Tŷ Darran. Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad newydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy'n mynd i gau.
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Bydd y datblygiadau hyn yn hollol wahanol i unrhyw beth sydd wedi cael ei gyflwyno gan dîm Cyngor Caerffili o'r blaen. Bydd y cartrefi'n ymgorffori nodweddion dylunio arloesol i sicrhau bod costau ynni'n cael eu cadw mor isel â phosibl i drigolion, gan hefyd leihau allyriadau carbon.
 
“Yng nghanol yr argyfwng costau byw a thai cenedlaethol presennol, ni fu erioed mor bwysig darparu cartrefi cynaliadwy o safon uchel sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Fis diwethaf, ymrwymodd y Cabinet i ddarparu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf i ddiwallu anghenion lleol sy'n cynyddu.
 
“Yn ogystal, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddsoddiad sy’n cael ei wneud yn ein rhaglen ddatblygu hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i’r Fwrdeistref Sirol gyfan.”


Ymholiadau'r Cyfryngau