News Centre

Dull gweithio mewn partneriaeth i helpu gweithwyr i ffynnu

Postiwyd ar : 11 Hyd 2023

Dull gweithio mewn partneriaeth i helpu gweithwyr i ffynnu
Mae amrywiaeth o gyflogwyr a sefydliadau o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn darganfod sut y gallan nhw helpu pobl leol sy'n gweithio ar hyn o bryd ac sy'n derbyn budd-daliadau penodol.
 
Amlygodd digwyddiad partneriaethau arbennig, a gafodd ei gynnal gan Gyngor Caerffili yn ei bencadlys yn Nhŷ Penallta, y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr a’u cyflogeion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), y Cyngor ac amrywiaeth o sefydliadau partner eraill.
 
Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys adolygiadau canol gyrfa a chyfrifon dysgu personol, chwalu’r mythau ynghylch y cyfyngiad 16 awr i gael mynediad at Gredyd Cynhwysol a hyrwyddo budd-daliadau atodol, gan gynnwys Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn a sut y gall cyflogeion gael mynediad at y rhain tra’u bod nhw mewn gwaith, ac ati.
 
Fel partner allweddol yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhannu ei uchelgais i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n gweithio ar hyn o bryd ac yn cael Credyd Cynhwysol yn ogystal â’u cyflogwyr.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Rydyn ni'n falch iawn o weithio mewn partneriaeth agos â’n cydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu cymorth a chyfleoedd ychwanegol i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
“Rydyn ni eisiau i bawb allu symud ymlaen a ffynnu mewn gwaith, pwy bynnag ydyn nhw a ble bynnag maen nhw'n byw. Gyda dros 5,000 o unigolion yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd sy'n cael Credyd Cynhwysol ac sydd mewn gwaith, rydyn ni'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn helpu pawb i symud ymlaen a ffynnu mewn gwaith, pwy bynnag ydyn nhw.
 
“Bydd y fenter hon, sef Dilyniant yn y Gwaith, yn helpu gwella ansawdd swyddi, sefydlogrwydd a photensial i ennill cyflog da i lawer o bobl leol fel rhan o’n huchelgais i ddatblygu economi leol gref a gweithlu bywiog,” ychwanegodd.
 
Gall fusnesau yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili gael rhagor o wybodaeth am y fenter Dilyniant yn y Gwaith a'r cymorth sydd ar gael i'w gweithlu drwy gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Cyflogwyr yn eu canolfan gwaith leol a gall cwsmeriaid  ddarganfod rhagor drwy siarad â'u Hanogwr Gwaith.


Ymholiadau'r Cyfryngau