News Centre

Tai yn cael eu troi'n gartrefi gyda diolch i Dîm Eiddo Gwag Caerffili

Postiwyd ar : 13 Hyd 2023

Tai yn cael eu troi'n gartrefi gyda diolch i Dîm Eiddo Gwag Caerffili
Mae tîm yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn troi tai yn gartrefi, drwy weithio gyda pherchnogion i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto mewn modd buddiol.

Mae Tîm Eiddo Gwag Caerffili yn cynnig ystod eang o gyngor a chymorth i berchnogion tai gwag, gan gynnwys cymorth ariannol.  Fodd bynnag, pan fydd yr holl opsiynau i ymgysylltu â pherchnogion wedi'u disbyddu, bydd y tîm yn gallu defnyddio pwerau gorfodi i fynd i'r afael ag eiddo gwag hirdymor sy'n achosi problemau.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y tîm gwblhau gwerthiant gorfodol cyntaf y Cyngor o eiddo yng Nghaerffili a oedd wedi bod yn wag ers o leiaf Chwefror 2015.  Roedd yr eiddo wedi’i adael i ddirywio ac ni chafodd unrhyw berson atebol ei nodi i ofalu am yr eiddo yn dilyn marwolaeth y deiliad yn 2012.

Bu'r eiddo'n wag am dros 7 mlynedd, gan ddirywio ac achosi anfodlonrwydd i bobl mewn eiddo cyfagos. Roedd yr eiddo'n edrych yn hyll ac roedd yn dechrau denu plâu. Roedd yn aml yn destun cwynion gan gymdogion a'r gymuned ehangach.

Mewn ymateb i bryderon gan drigolion, cyflwynodd y Cyngor hysbysiadau cyfreithiol ynghylch yr ardd, a oedd yn llawn gwastraff ac wedi gordyfu. Gan na chafwyd hyd i unrhyw berchennog, fe wnaeth y Cyngor waith yn niffyg yr hysbysiad i glirio'r ardd. Arweiniodd hyn at ddyled i'r Cyngor a galluogi'r Tîm Eiddo Gwag i orfodi gwerthu'r tŷ i adennill yr arian dyledus.

Cafodd yr eiddo ei werthu yn ystod yr haf a daethpwyd o hyd i berchennog newydd er mwyn ei droi yn ôl yn gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae eiddo gwag nid yn unig yn glwy ar ein cymunedau ac yn atyniad ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond maen nhw hefyd yn cynrychioli adnodd sy’n cael ei wastraffu, yn enwedig o ystyried pwysau’r argyfwng tai cenedlaethol presennol.

"Mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw gwneud dim byd o gwbl yn opsiwn ac mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â mater eiddo gwag. Gorfodi yw'r dewis olaf, ond rydyn ni'n cydnabod ei fod yn angenrheidiol mewn rhai achosion.

"Yn ystod blwyddyn gyntaf y Tîm Eiddo Gwag, llwyddodd i sicrhau bod 104 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto mewn modd buddiol: y nifer blynyddol uchaf i’r Cyngor hyd yma. Yn ogystal â chreu cartrefi y mae mawr eu hangen, mae ymdrechion y tîm yn helpu trawsnewid cymunedau lleol a chreu buddion ariannol i’r Cyngor a’r economi leol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i https://www.caerphillynouseempty.co.uk/cy/, anfon e-bost at TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811378.


Ymholiadau'r Cyfryngau