News Centre

Cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i’r afael â halogi ailgylchu

Postiwyd ar : 13 Hyd 2023

Cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i’r afael â halogi ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar genhadaeth i hybu cyfraddau ailgylchu, a'r wythnos hon bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a fydd yn nodi camau i wella ansawdd ailgylchu wrth ymyl y ffordd a mynd i'r afael â halogi.
 
Bydd gofyn i aelodau ystyried gweithredu proses addysg ac ymgysylltu well sy'n cynnwys llythyrau, ymweliadau cartref ac, mewn nifer fach o achosion, yr opsiwn i gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i droseddwyr sy'n halogi ailgylchu’n gyson.
 
Mae dull presennol y Fwrdeistref Sirol o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn cynnwys bin olwynion brown ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchu sych cymysg. Er bod y dull hwn yn arwain at gasglu tunelli ailgylchu sych sylweddol, mae natur y cynwysyddion wedi'u darparu yn golygu bod lleiafrif o drigolion yn rhoi gwastraff amhriodol yn eu biniau ailgylchu.
 
Gall un bin halogedig roi'r llwyth cyfan mewn perygl o gael ei wrthod. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd a chyfraddau ailgylchu’r Awdurdod Lleol.
 
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed o 70% sydd ar ddod, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth sydd wedi'u cyhoeddi am y blynyddoedd sydd i ddod.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel gweddill y byd, yn wynebu argyfwng hinsawdd byd-eang felly mae angen i ni gyd wneud rhagor i fyw bywydau glanach a gwyrddach, ac mae’n amlwg bod ailgylchu yn elfen allweddol o'r cydymdrech hwn.
 
“Er ein bod ni'n gwerthfawrogi bod y rhan fwyaf o’n trigolion eisoes yn gweithio gyda ni i ailgylchu’n gywir bob wythnos, mae lleiafrif bach sy’n defnyddio dyluniad ein bin olwynion brown yn fwriadol i gael gwared ar ddeunyddiau eraill nad ydyn nhw'n gallu cael eu hailgylchu.
 
“Nod y broses newydd hon yw sicrhau nad yw gwaith y trigolion hynny sy’n gwneud y peth iawn yn gyson yn mynd i wastraff.”
 
Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried yn y Cabinet ddydd Mercher 18 Hydref 2023 ac mae ar gael yma.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau