News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn adolygu adroddiad blynyddol Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd

Postiwyd ar : 09 Hyd 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn adolygu adroddiad blynyddol Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd
Mae aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi adolygu adroddiad blynyddol Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd.

Mae gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor yn cynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Trwyddedu, Diogelwch Cymunedol, a Chofrestryddion.

Mae gan wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd rôl bwysig o ran diogelu, hyrwyddo a gwella iechyd, diogelwch a lles economaidd ein cymunedau.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth swyddogion ar draws Diogelu’r Cyhoedd, gan gynnwys Safonau Masnach a Thrwyddedu, ddelio gyda 55 o gwynion am eiddo sy’n cyflenwi nwyddau â chyfyngiad oedran, ynghyd ag ymweld â 58 o adwerthwyr i’w hysbysu nhw’n fanwl am eu cyfrifoldebau ynghylch gwerthu i unigolion dan oed.

Gan fod gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn broblem gynyddol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a ledled y DU, mae Safonau Masnach wedi parhau i gymryd camau yn erbyn gwerthwyr tybaco anghyfreithlon hysbys. Trwy gydol 2022/2023 fe wnaeth swyddogion Diogelu’r Cyhoedd atafaelu cynhyrchion â gwerth stryd dros £21,000, gan gynnwys 0.7kg o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon a 9800 o sigaréts anghyfreithlon.

Fe wnaeth Iechyd yr Amgylchedd arolygu 717 o fusnesau bwyd risg uwch a nododd hefyd gynnydd mewn achosion o dorri rheolau Iechyd a Diogelwch gyda 71 o rybuddion, 19 o hysbysiadau gwella a 4 hysbysiad gwahardd wedi'u cyhoeddi yn ystod y flwyddyn. 

Mae'r system deledu cylch cyfyng Mannau Agored Cyhoeddus yn cynnwys dros 170 o gamerâu sy'n cynnwys 28 o ganol trefi a phentrefi, ac mae'r ystafell reoli teledu cylch cyfyng ar agor 24/7. Mae'r ystafell reoli teledu cylch cyfyng yn cyfeirio digwyddiadau ac ymddygiad amheus yn uniongyrchol at yr Heddlu am eu gweithredoedd. Gall disgrifiadau sy'n cael eu darparu gan yr ystafell reoli arwain at arestiadau yn digwydd ar adeg y digwyddiad ac mewn rhai achosion gall Gweithredwyr yr Ystafell Reoli arwain Swyddogion Heddlu at droseddwyr o ganlyniad i fonitro parhaus ar ôl digwyddiad.

Yn ystod y flwyddyn, gofynnodd yr heddlu am gymorth i fonitro 65 o fygythiadau o hunanladdiad, a chafodd ffilm o 459 o ddigwyddiadau eu darparu i Heddlu Gwent i'w cynorthwyo nhw gyda'u hymchwiliadau i droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Roedd cynnydd hefyd yn y camau gorfodi sy'n cael eu defnyddio i fynd i'r afael ag unigolion sy'n cyflawni digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn barhaus, gyda 35 o gontractau ymddygiad derbyniol yn cael eu llofnodi ac 8 unigolyn yn cael Gwaharddeb Sifil yn y llys gan Wardeniaid Diogelwch Cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, “Mae’r ffigurau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn amlygu ymrwymiad parhaus ein staff ar draws Diogelu’r Cyhoedd.

“Bydd ein gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd yn parhau i chwarae rhan fawr yn diogelu, amddiffyn a lles economaidd ein cymunedau.”


Ymholiadau'r Cyfryngau