Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Bu 16eg Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd yn llwyddiant ysgubol
News Centre
Bu 16eg Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd yn llwyddiant ysgubol
Postiwyd ar : 06 Hyd 2022
Dychwelodd Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd i'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yr wythnos diwethaf, ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Covid-19.
Fe wnaeth dros 300 o bobl ifanc o 25 ysgol gymryd rhan gyda chyfle iddyn nhw brofi gwefr rygbi, datblygu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae poblogrwydd y digwyddiad wedi tyfu dros y blynyddoedd gyda dim ond chwe ysgol yn cymryd rhan ar y dechrau.
Chwaraeon Caerffili ac Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod oedd yn cynnal y digwyddiad, gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau yn bresennol i gynnig eu cymorth hirsefydlog, gan wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Mae chwaraewyr rygbi’r Dreigiau wedi mynychu’r digwyddiad ers 16 o flynyddoedd, gan ysbrydoli’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae'r chwaraewyr yn annog y bobl ifanc i roi cynnig ar bethau newydd fel taro bagiau taclo a rholio ar y llawr. Mae'r profiadau synhwyraidd hyn wedi bod o fudd mawr i bobl ifanc sydd ag anableddau.
Mae poblogrwydd a llwyddiant y digwyddiad yn dyst i waith Paul Taylor, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd a Chynhwysiant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Dywedodd, “Rwy’n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno mai’r digwyddiad hwn yw un o’n hoff ddiwrnodau’r flwyddyn. Wnes i erioed feddwl y byddai mor llwyddiannus â hyn pan gefais i a Jamie Scales o Cae'r Drindod sgwrs yn ôl yn 2005 ynglŷn â chreu’r Chwe Gwlad gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy o ysgolion a phlant yn mynychu bob blwyddyn. Rwyf wedi mwynhau eu gwylio nhw'n datblygu eu hyder dros y blynyddoedd - mae wedi bod yn wych."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Cynghorydd Chris Morgan, “Roeddwn i wrth fy modd yn mynychu’r digwyddiad hwn; roedd y wên ar wynebau’r plant yn dweud y cyfan. Hoffwn i ddiolch i’r trefnwyr am drefnu digwyddiad mor gynhwysol ac i’r ysgolion o bob rhan o Gymru am deithio i Fwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi'r flwyddyn nesaf."
Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i staff a gwirfoddolwyr am eu cymorth nhw, sy'n caniatáu i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal, yn ogystal â Phrentisiaid Staff Undeb Rygbi Cymru, staff Cymuned y Dreigiau, myfyrwyr o Goleg Ystrad Mynach a Chwaraeon Caerffili. Ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosibl chwaith heb y nawdd gan y busnesau a’r elusennau lleol, AGM Embroidery ac elusen goffa Phylyp Butler.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y