News Centre

Cyngor Caerffili yn chwilio am drigolion i ymuno â'r Pwyllgor Safonau

Postiwyd ar : 13 Hyd 2022

Cyngor Caerffili yn chwilio am drigolion i ymuno â'r Pwyllgor Safonau
Mae’r Cyngor yn chwilio am ddau berson sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol i wasanaethu fel aelodau o’i Bwyllgor Safonau, sy’n delio â materion moesegol sy’n codi yng ngwaith y Cyngor ac yn gwrando ar gwynion gan y cyhoedd am faterion o’r fath.
 
Sylwch fod y rheoliadau yn atal penodi rhywun sydd wedi'i gyflogi gan y Cyngor, rhywun oedd yn aelod etholedig neu rywun sy'n berthynas neu'n ffrind agos i aelod etholedig neu weithiwr cyflogedig o'r Cyngor.
 
Os ydych chi'n barod i neilltuo peth o'ch amser chi i sicrhau’r safonau moesegol uchel hyn a bod yn aelod o’r pwyllgor, cysylltwch â Swyddog Monitro’r Cyngor drwy ffonio 01443 863028, neu drwy anfon e-bost i griffd2@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio.
 
Mae lwfans dyddiol o £210.00 a lwfans o £105.00 am hanner diwrnod yn daladwy am hyd at 10 cyfarfod y flwyddyn.
 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27.10.22 am hanner dydd.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau