Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2022
Cabinet yn canmol gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach'
News Centre
Cabinet yn canmol gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach'
Postiwyd ar : 06 Hyd 2022
Yn ystod cyfarfod ar 5 Hydref, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi canmoliaeth i waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol.
Hefyd, cafodd cylch gorchwyl Partneriaeth Caerffili Saffach ei gymeradwyo gan aelodau'r Cabinet, a chafodd y Cynghorydd Philippa Leonard, yr aelod Cabinet presennol sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, ei chymeradwyo fel cynrychiolydd pleidleisio'r Cyngor ar gyfer y Bartneriaeth.
O dan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach', mae awdurdodau cyfrifol yn cydweithio i fynd i'r afael â throsedd ac anhrefn, camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill, a lleihau aildroseddu. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Heddlu Gwent, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Yn ystod y cyfarfod, cafodd aelodau’r Cabinet eu diweddaru ynghylch mentrau llwyddiannus sydd wedi’u cyflwyno gan Bartneriaeth Caerffili Saffach, gan gynnwys:
Prosiectau i atal cynnau tanau'n fwriadol megis Ymgyrch Dawns Glaw, Prosiect Bernie ac Ymgyrch Bang, sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Gweithrediadau ar y Cyd a Gorchmynion Gwasgaru sy'n cael eu cyflawni gan Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol, Heddlu Gwent a phartneriaid.
Sesiynau Allgymorth y Gwasanaeth Ieuenctid a Dyfodol Cadarnhaol wythnosol i dargedu ardaloedd problemus ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd ar fin troseddu.
Prosiectau’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i atal ymddygiad troseddol cynyddol, sy'n gallu cynnwys cymorth a mentora teuluol.
Gweithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, sy'n cwmpasu dros 300 o leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, i gyd yn anelu at atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, “Ers ei sefydlu, mae Partneriaeth Caerffili Saffach wedi cyflawni nifer o brosiectau a mentrau sy’n mynd i’r afael â materion presennol yn ogystal â datblygu agwedd ragweithiol tuag at atal. Cipolwg yn unig yw’r adroddiad hwn o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y bartneriaeth i geisio cadw ein cymunedau ni’n ddiogel er pleser pawb. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yma ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio er budd trigolion ac ymwelwyr y Fwrdeistref Sirol.”
Rhannwch y dudalen hon :
Share on Facebook
Share on Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Email Address
Telephone
Address
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y