News Centre

Gofyn i'r cyhoedd fynegi eu barn ar y polisi gamblo

Postiwyd ar : 18 Hyd 2021

Gofyn i'r cyhoedd fynegi eu barn ar y polisi gamblo
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd fynegi eu barn ar adolygiad o'i bolisi gamblo.

Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o'i Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu o dan y Ddeddf Gamblo. Mae Deddf Gamblo 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi'r ffactorau amrywiol y byddan nhw'n eu hystyried pan fydd ceisiadau yn dod i law.

Bydd y rhain yn cynnwys y ffordd y mae'n delio â cheisiadau am drwydded safle ar gyfer siopau betio, canolfannau hapchwarae i oedolion ac adloniant i'r teulu ac wrth roi trwyddedau ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae  mewn clybiau a thafarndai a loterïau cymdeithasau bach.

Mae busnesau ac aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddarllen polisi diwygiedig arfaethedig y Cyngor a chyflwyno eu barn trwy fynd i'r wefan.

Am ragor o wybodaeth, neu os na allwch chi lenwi'r arolwg ar-lein, ffoniwch 01443 866750 neu e-bostio trwyddedu@caerffili.gov.uk. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 8 Tachwedd 2021.


Ymholiadau'r Cyfryngau