Deddf Gamblo 2005

Mae'r Cyngor wedi cwblhau ei arolwg o'i Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu, sy'n nodi'r ffordd y rydyn ni’n delio â cheisiadau am drwyddedau mangre ar gyfer swyddfeydd betio, canolfannau hapchwarae i oedolion a chanolfannau adloniant i'r teulu ac wrth roi trwyddedau ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau, tafarndai, ayyb.

Cafodd y Polisi Trwyddedu cyfredol ei gymeradwyo yn y Cyngor llawn ar 26 Ionawr 2022. Cafodd y Polisi ei gyhoeddi ar 27 Ionawr 2022 i’w weithredu ar 28 Chwefror 2022. Yn unol â'r Ddeddf, rhaid i’r Polisi Trwyddedu gael ei adolygu yn gyson ac, mewn unrhyw achos, rhaid i'r Cyngor adolygu'r polisi bob tair blynedd.

Cafodd proses ymgynghori ei gynnal a oedd wedi cynnwys ysgrifennu at y cyrff a’r unigolion hynny y mae’r Cyngor wedi ymgynghori â nhw yn wreiddiol, ac roedd ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor. O ganlyniad i'r broses honno, cafodd y Polisi Trwyddedu ei ddiweddaru gan ystyried y sylwadau perthnasol a ddaeth i law ac a oedd yn berthnasol i’r Canllawiau gan y Comisiwn Gamblo.

Mae’r Polisi ar gael yn www.caerffili.gov.uk. Fel arall, mae copïau ar gael gan yr Is-adran Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG neu drwy gysylltu â 01443 866750 neu Trwyddedu@caerffili.gov.uk.