News Centre

Menter newydd i gadw pobl ifanc yn actif

Postiwyd ar : 01 Hyd 2021

Menter newydd i gadw pobl ifanc yn actif
Mae menter newydd sydd â'r nod o gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol i bobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael ei lansio heddiw (dydd Gwener 1 Hydref). 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r gwasanaethau hamdden yn falch o lansio'r fenter 'Blwyddyn 7 Actif' mewn partneriaeth â'r holl ysgolion uwchradd. Bydd y fenter newydd yn rhoi mynediad am ddim i ddisgyblion blwyddyn 7 at y deg cyfleuster chwaraeon a hamdden ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn cynnwys mynediad am ddim at nofio, ystafelloedd ffitrwydd, dosbarthiadau a chwaraeon raced.

Ni fu dod yn actif a gofalu am ein lles corfforol a meddyliol erioed mor bwysig. Mae gan 'Blwyddyn 7 Actif' y nod o annog unigolion i gymryd rhan mewn chwaraeon a ffitrwydd, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd a magu hyder trwy gael gwared ar gost fel rhwystr i gymryd rhan. 

Dywedodd Ross Whiting, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddysgu a Hamdden, "Cyfle gwych i holl ddisgyblion blwyddyn 7 i gymryd rhan a defnyddio'r cyfleusterau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd y fenter newydd hon yn ceisio cefnogi darpariaeth y strategaeth chwaraeon a hamdden egnïol trwy annog pobl ifanc i fod yn fwy actif yn fwy aml. Trwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf, rydyn ni hefyd yn cefnogi ei hiechyd, lles a'r buddion sy'n dod gyda bod yn ffit ac yn actif."

Dywedodd Lottie o Ysgol Uwchradd Rhisga, "Rwy’n gyffrous iawn oherwydd rwy’n mwynhau gwneud chwaraeon a nawr gallaf annog fy ffrindiau a fy mam i ddod hefyd. Rydym yn gallu trio pethau newydd fel mynd i’r gampfa neu mynychu dosbarthiadau ffitrwydd ac rwy’n credu fydd hyn yn anhygoel”. 

Dywedodd William o Ysgol Uwchradd Rhisga, “Fe wnes i golli gwneud chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn fawr iawn yn ystod y pandemig, oherwydd roeddwn yn gorffod aros adref, ond nawr rydym yn gallu gwneud gweithgareddau hefo ein ffrindiau, cadw’n ffit hefo’n gilydd a cael hwyl”. 

Bydd yr holl ffurflenni aelodaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 yn cael eu dosbarthu trwy'r ysgol. Gall disgyblion blwyddyn 7 sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol ond yn mynychu ysgol uwchradd mewn sir arall gael ffurflen aelodaeth gan eu canolfan hamdden leol. 

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu e-bostio: hamdden@caerffili.gov.uk. 


Ymholiadau'r Cyfryngau