News Centre

Cwblhau cartrefi newydd cyntaf Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 04 Hyd 2021

Cwblhau cartrefi newydd cyntaf Cyngor Caerffili
Mae gwaith adeiladu'r cartrefi cyngor cyntaf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ers 19 o flynyddoedd bellach wedi'i gwblhau.

Cafodd y cartrefi eu ‘trosglwyddo’ yn swyddogol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar gan y datblygwyr, Llanmoor Homes, yn Bedwellty Field, Aberbargod. O blith datblygiad o 55 eiddo, bydd 6 o gartrefi rhent cymdeithasol yn eiddo i'r Cyngor, ac yn cael eu rheoli ganddo, yn ogystal â 2 eiddo perchentyaeth cost isel a fydd yn cynnig cyfleoedd i brynwyr tro cyntaf.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae hon yn foment arwyddocaol, wrth i ni ddechrau gwireddu ein haddewid ni i gynyddu'r cyflenwad o dai cyngor yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd ein rhaglen uchelgeisiol ni yn golygu y bydd cartrefi cyngor newydd yn cael eu datblygu gennym ni, ac mewn partneriaeth â datblygwyr preifat, ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet dros Dai y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Phipps, “Rydyn ni'n gwybod bod galw cynyddol am dai cymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu diwallu'r angen hwnnw. Rydyn ni'n ddiolchgar i Llanmoor Homes am weithio mewn partneriaeth â ni i ddarparu'r cartrefi newydd o ansawdd uchel hyn, a fydd yn cael eu dyrannu trwy ein Cofrestr Tai Cyffredin.”

Meddai Tim Gray, Cyfarwyddwr Gwerthu, Llanmoor Homes, “Rydyn ni'n falch dros ben o allu trosglwyddo'r cartrefi cymdeithasol fforddiadwy cyntaf i breswylwyr yn ein datblygiad poblogaidd, Bedwellty Field, Aberbargod. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i greu cymuned rydyn ni'n hynod falch ohoni. Mae angen cryf am gartrefi fforddiadwy ledled y Fwrdeistref Sirol, a'n blaenoriaeth ni yw sicrhau bod Llanmoor Homes yn darparu cartrefi o'r ansawdd uchaf yn ein datblygiadau ni yn ne Cymru ar gyfer y farchnad agored a gwerthu fforddiadwy.”


Ymholiadau'r Cyfryngau