News Centre

Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf

Postiwyd ar : 28 Hyd 2021

Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi ar gyfer adeg fwyaf rhyfeddol y flwyddyn, gyda Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Bydd Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn cael eu cynnal ym Margod, Ystrad Mynach, Caerffili a Choed Duon, gan gynnig popeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan Nadoligaidd. Bydd pob marchnad yn cynnwys rhwng 20 a 50 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.
 
Mae canol y trefi dan sylw yn cynnig cyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol – mae dewis o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr a lleoliadau bwyta allan bendigedig.
 
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Rydyn ni'n llawn cyffro o allu cynnal Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng nghanol pedair tref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Ar ôl 18 mis heriol, ni fu erioed adeg bwysicach i gefnogi'r stryd fawr leol. Mae'r busnesau hyn wrth wraidd y stryd fawr, a dylem ni eu cefnogi nhw gymaint ag y gallwn ni y Nadolig hwn.”
 
Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal rhwng 9am a 5pm ar y dyddiadau canlynol:
 
  • Dydd Sadwrn 20 Tachwedd – Lowry Plaza, Hanbury Square a Hanbury Road, Bargod
  • Dydd Sadwrn 27 Tachwedd – Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Ystrad Mynach
  • Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr – Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street a maes parcio'r Twyn, Caerffili
  • Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr – Y Stryd Fawr, Coed Duon
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau