News Centre

Atgoffa tenantiaid Cyngor Caerffili i roi barn ar wasanaethau tai

Postiwyd ar : 04 Hyd 2021

Atgoffa tenantiaid Cyngor Caerffili i roi barn ar wasanaethau tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar y gwasanaethau tai y mae'n ei ddarparu.

Mae arolwg yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan gwmni annibynnol o'r enw ARP Research Limited. Dylai pob tenant fod wedi cael copi o'r arolwg yn y post, neu gellir ei gwblhau ar-lein.

Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl am gyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau siopa. Bydd yr arolwg yn gorffen ddydd Gwener 8 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i’n holl denantiaid sydd eisoes wedi cymryd yr amser i gwblhau’r arolwg. Mae canlyniadau'r arolwg hwn yn hanfodol i'n helpu i ddeall sut y gallwn ni deilwra gwasanaethau tai yn well i ddiwallu eu hanghenion.

Mae yna amser o hyd i'r rhai sydd heb ei gwblhau eto, felly gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chyfrif."

Gall tenantiaid sydd ag ymholiadau neu bryderon ynghylch yr arolwg gysylltu â Thîm Cyfranogiad Tenantiaid a’r Gymuned y Cyngor ar 01443 864086 neu drwy e-bostio cyfranogiadtenantiaid@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau