FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arolwg Bodlonrwydd Tenantaid 

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni ac mae ein harolwg 2023 yn gyfle i ddweud eich dweud wrthym ni am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar ran Cartrefi Caerffili (tîm tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) gan gwmni annibynnol o’r enw ARP Research Limited.

Mae eich atebion yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fydd y Cyngor yn gallu cysylltu eich atebion â'ch enw na'ch cyfeiriad heb i chi gytuno.

Mae copïau o'r arolwg yn cael eu postio ar hyn o bryd i bob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol. Mae tenantiaid hefyd yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein.

I ddiolch i chi, bydd y cod unigryw o bob arolwg sy'n cael ei lenwi yn cael ei gynnwys yn awtomatig mewn raffl sy'n rhad ac am ddim, lle bydd 1 person lwcus yn ennill £250 a 5 arall yn cael £50 ar ffurf talebau siopa.

Os oes gan denantiaid unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr arolwg, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433/34 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.

Cwestiynau cyffredin

Beth yw'r arolwg?

Mae Cartrefi Caerffili yn cynnal arolwg boddhad tenantiaid yn 2023. Mae hyn yn cael ei gynnal ar ein rhan gan ARP Research. Mae’r arolwg hwn i’w gynnal o leiaf bob dwy flynedd ac mae’n seiliedig ar arolwg safonol gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio gan landlordiaid eraill ledled Cymru i fesur boddhad a chymharu â’i gilydd.

Bydd pob cartref yn cael arolwg papur yn gynnar ym mis Hydref 2023 gydag arolwg atgoffa yn cael ei anfon 2-3 wythnos yn ddiweddarach at y rhai nad ydyn nhw'n ymateb i ddechrau. Yn ogystal, lle mae gan Gartrefi Caerffili fanylion cyswllt, bydd aelwydydd hefyd yn cael gwahoddiadau/nodiadau atgoffa i arolwg ar-lein drwy e-bost a neges destun.

Y dyddiad cau terfynol fydd dydd Gwener 24 Tachwedd 2023.

Bydd e-byst yn dod oddi wrth ‘Caerphilly Tenant Survey’ (noreply-caerphillyhomes@arpsurveys.co.uk).

Bydd unrhyw negeseuon testun yn dod oddi wrth 07860 017314.

Pam ydych chi'n cynnal yr arolwg hwn?

Rydyn ni am wybod sut rydych chi'n teimlo am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a byddwn ni'n defnyddio'r canlyniadau i gynllunio gwelliannau i wasanaethau. Rydyn ni'n cynnal yr arolwg o leiaf bob dwy flynedd ac yn gofyn cwestiynau tebyg fel y gallwn ni hefyd olrhain a ydyn ni'n gwella a gweithredu os nad ydyn ni. Mae'n ofynnol i ni hefyd wneud yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru.
 

Sut mae cymryd rhan yn y raffl?

Yn syml, dychwelwch yr holiadur yn yr amlen rhadbost a bydd eich cod cyfrinachol unigryw yn cael ei roi yn y raffl yn awtomatig i ennill hyd at £250 ar ffurf talebau siopa. (Mae cyfanswm o 5 gwobr, 1 x £250 a 5 x £50). Mae'r cod hwn wedi'i argraffu ar y copïau papur a'i ymgorffori yn y dolenni unigryw sydd wedi cael eu hanfon drwy e-bost a neges destun.

Dydw i ddim eisiau cymryd rhan, tynnwch fi oddi ar eich rhestr.

Anfonwch fanylion yr enw a'r cyfeiriad i support@arp-research.co.uk

Mae e-byst hefyd yn cynnwys dolen i ddatdanysgrifio os nad yw tenantiaid am gael e-byst pellach, ac mae negeseuon testun yn caniatáu i denantiaid ymateb gyda STOP i optio allan o'r arolwg hwn.

Oes modd i mi gael holiadur arall?

Oes. Anfonwch fanylion yr enw a'r cyfeiriad i support@arp-research.co.uk.

Fel arall, mae modd cwblhau'r arolwg ar-lein yn www.arpsurveys.co.uk/caerphilly.

 

Oes modd i mi gael amlen radbost newydd?

Mae modd anfon yr holiadur yn ôl mewn unrhyw amlen i’r cyfeiriad canlynol:

Freepost RTZK-RGZT-BSKU,
ARP Research,
PO Box 5928,
SHEFFIELD
S35 5DN

Dw i'n cael trafferth cyrchu'r arolwg ar-lein.

Bydd rhai trigolion wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan drwy e-bost a/neu neges destun. Mae'r rhain yn cynnwys dolen unigryw a fydd yn eu mewngofnodi nhw'n awtomatig i'r arolwg ac yn caniatáu iddyn nhw ailddechrau lle gwnaethon nhw adael.

Mae cymorth technegol ar gael drwy e-bostio support@arp-research.co.uk neu ffonio 0800 020 9564.

Mae'r arolwg ar-lein hefyd ar gael yn y cyfeiriad canlynol: www.arpsurveys.co.uk/caerphilly. Bydd rhaid i'r atebydd deipio ei god unigryw sydd ar gael ar yr holiadur papur a'r llythyr eglurhaol neu gofrestru gyda'i gyfeiriad e-bost, rhif tŷ a chod post.

Dw i wedi cael neges destun sy'n fy ngwahodd i gymryd rhan mewn arolwg, ond nid oes modd cael y rhyngrwyd ar fy ffôn.

Mae'r arolwg ar-lein yn ychwanegol at yr arolwg post, felly cwblhewch a dychwelyd y fersiwn papur yn lle hynny.
 

Pam ydych chi wedi rhoi fy manylion cyswllt i gwmni gwahanol?

I wneud yn siŵr bod ein harolwg yn annibynnol, rydyn ni wedi gofyn i ARP Research ei gynnal ar ein rhan. Mae ARP yn arbenigo mewn cynnal arolygon fel hyn ar gyfer darparwyr tai ledled y wlad. Mae hyn yr un fath â phan fyddwn ni'n cyflogi contractwyr i wneud gwaith atgyweirio ar ein rhan. Ni fydd ARP yn cael caniatâd i ddefnyddio’ch manylion cyswllt am unrhyw reswm heblaw rhedeg yr arolwg hwn ac maen nhw'n cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad.
 

Sut mae'r arolwg yn gyfrinachol os ydych chi'n gwybod pwy ydw i?

Mae ARP Research yn defnyddio'ch cod unigryw i ddileu eich cyfeiriad o unrhyw bostiadau pellach os ydych chi eisoes wedi anfon eich holiadur yn ôl, ac i redeg y raffl fawr. Mae unrhyw gysylltiad rhwng eich hunaniaeth a’r atebion sy'n cael eu darparu gennych chi yn cael ei ddileu cyn gynted â phosibl gan ARP, ac ni fydd y Cyngor byth yn gweld pwy ydych chi oni bai eich bod chi'n rhoi eich caniatâd penodol.
 

Faint o arian ydych chi wedi'i wario ar yr arolwg hwn/pam ydych chi'n gwastraffu arian ac ati?

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal yr arolwg hwn bob dwy flynedd. Mae’n bwysig iawn ein bod ni'n gwario arian yn ddoeth drwy ddarparu’r gwasanaethau cywir i chi yn y ffordd gywir. Mae'r arolwg hwn yn ein helpu ni i ddarganfod hyn. Rydyn ni'n cael cwmni ymchwil i'w gynnal er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn annibynnol ac yn ddibynadwy.

Dw i am gael manylion penodol am sut mae'r arolwg wedi'i gynllunio neu'n cael ei redeg neu hoffwn i siarad ag ARP Research yn uniongyrchol.

Ffoniwch ARP Research ar radffôn 0800 020 9564, neu e-bostio support@arp-research.co.uk.