News Centre

Atgoffa tenantiaid Cyngor Caerffili i roi eu barn ar wasanaethau tai

Postiwyd ar : 03 Tach 2023

Atgoffa tenantiaid Cyngor Caerffili i roi eu barn ar wasanaethau tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar y gwasanaethau tai y mae'n eu darparu. Mae arolwg yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan gwmni annibynnol o'r enw ARP Research Limited.

Dylai pob tenant fod wedi cael copi o'r arolwg yn y post neu gall gael ei gwblhau ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth yma. Bydd pawb sy'n cwblhau’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i gael cyfle i ennill hyd at £250 ar ffurf talebau siopa. Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd amser i gwblhau'r arolwg hyd yn hyn. Mae adborth cwsmeriaid yn hynod o bwysig i'n helpu ni i wella gwasanaethau ac rwy'n annog pob tenant i sicrhau bod ei farn yn cael ei chynnwys drwy gymryd rhan yn yr arolwg."

Os oes gan denantiaid unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr arolwg, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433/34 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau