News Centre

50 diwrnod i fynd tan y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf!

Postiwyd ar : 05 Mai 2023

50 diwrnod i fynd tan y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf!
Rydyn ni wedi dechrau cyfri’r diwrnodau tan Pride Caerffili! Mewn dim ond 50 diwrnod, bydd y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023, rhwng 12pm a 7pm yng Nghanol tref Caerffili.
Rydyn ni wedi dechrau cyfri’r diwrnodau tan Pride Caerffili! Mewn dim ond 50 diwrnod, bydd y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023, rhwng 12pm a 7pm yng Nghanol tref Caerffili. Mae'r digwyddiad hwn yn ddathliad o'r gymuned LHDTC+ yn y Fwrdeistref Sirol ac mae'n agored i bawb sydd eisiau dod draw i ddathlu a dysgu rhagor am y gymuned fywiog a bwysig hon.

Mae'r digwyddiad hwn yn addo i fod yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb sydd eisiau mynychu, gan gynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw ac amrywiaeth o stondinau bwyd, diod a gwybodaeth. Bydd hefyd adloniant byw, gan gynnwys y frenhines drag wobrwyol, Miss Tina Sparkle, a fydd yn arwain y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau a Hyrwyddwr LHDTC+, "Rydyn ni mor gyffrous bod ein digwyddiad Pride Caerffili cyntaf dim ond 50 diwrnod i ffwrdd.

"Bydd hwn yn ddigwyddiad cynhwysol, ac rydyn ni'n croesawu pawb i ymuno â ni i ddathlu'r gymuned wych sydd gennym ni yma yn y Fwrdeistref Sirol.

"P'un a ydych chi am ddysgu rhagor am y gymuned LHDTC+ neu'n gyffrous i ymuno â'r dathliadau - rydw i wir yn gobeithio byddwch chi'n ymuno â ni ar y diwrnod am beth sy'n mynd i fod yn achlysur gwych." 

Uchafbwynt y diwrnod bydd Gorymdaith Pride Caerffili, wedi'i noddi gan Heddlu Gwent. Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Ysgol Gyfun Martin Sant am 12pm, yn teithio i lawr trwy ganol y dref tuag at y Llwyfan Band Ieuenctid Pride Caerffili, wedi'i noddi gan UNISON Caerffili. Bydd rhan olaf yr orymdaith yn teithio’n ôl i fyny tuag at Faes Parcio y Twyn, lle fydd yr orymdaith yn gorffen mewn amser i ddechrau diwrnod llawn hwyl ar ein Llwyfan Adloniant Pride Caerffili, wedi'i noddi gan Unite Cymru.

Bydd y rhestr adloniant llawn, gan gynnwys amserau, yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rydyn ni'n gallu datgelu bydd perfformiadau arbennig iawn i edrych ymlaen atyn nhw. Bydd y perfformiadau hyn yn cynnwys: Côr Meibion Hoyw De Cymru, amrywiaeth o artistiaid drag (gan gynnwys Polly Amorous, Esther Parade a Jackie Le Beanstalk, i enwi dim ond rhai) a sawl artist a DJ talentog, lleol. Bydd yna rywbeth at ddant pawb!

Rydyn ni nawr yn annog y rhai sy'n bwriadu ymuno yn yr orymdaith i gofrestru eu diddordeb gan lenwi'r ffurflen cofrestru sydd ar gael yma.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r orymdaith, gallwch chi hefyd weld ein llyfryn gorymdaith gan wasgu'r ddolen.

Am ragor o wybodaeth, ewch i ein tudalen digwyddiadau, a fydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r holl wybodaeth fyddwch chi'n ei hangen.

Peidiwch â cholli allan ar yr achlysur hanesyddol hwn. Gobeithio eich gweld chi yno!


Ymholiadau'r Cyfryngau