News Centre

Trawsnewid eiddo masnachol gwag yn far cwrw crefft cyntaf Caerffili

Postiwyd ar : 02 Maw 2022

Trawsnewid eiddo masnachol gwag yn far cwrw crefft cyntaf Caerffili
Mae hen uned Plumbsave yn Lôn y Twyn, Caerffili wedi'i hailddatblygu a'i thrawsnewid yn fragdy a microfragdy manyleb uchel newydd sbon.

Bydd yr adeilad sydd newydd ei adnewyddu yn cael ei ddefnyddio fel bar bragdy, yn gweini cwrw crefft a bwyd ffres, tra'n cynnig golygfa 270 gradd ddigynsail dros y bragdy i'w gwsmeriaid.

Mae’r datblygwyr y tu ôl i’r prosiect yn gobeithio y bydd y lleoliad newydd yn dod yn ganolbwynt cymunedol poblogaidd ac yn gyrchfan mawr ei pharch i dwristiaid, gan gynhyrchu cwrw o ansawdd uchel sydd wedi ennill gwobrau ac unig far cwrw crefft Caerffili.

Cafodd yr adeilad yn Uned 1, Lôn y Twyn, Caerffili hwb ariannol o £180,909 gan raglen Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen ariannu yw cefnogi prosiectau adfywio sy'n hybu adfywio economaidd - creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

Mae’r cyllid wedi’i anelu at ddod ag eiddo masnachol gwag yn ôl i ddefnydd a bydd yn mynd i’r afael â’r gofyniad am arwynebedd llawr manwerthu a masnachol sy’n diwallu anghenion busnesau, trwy ddarparu cyllid bwlch ar gyfer meddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol gwag i wella blaen adeiladau a dod â mannau ag arwynebedd llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd busnes buddiol.

Bellach wedi'i gwblhau, agorodd y bragdy yn swyddogol i'r cyhoedd ddydd Gwener 4 Chwefror 2022. Yn ystod cyfnod y Nadolig yn 2021, agorodd Brew Monster fel digwyddiad dros dro a oedd yn caniatáu i'r cyhoedd ymweld â'u datblygiad newydd a blasu'r danteithion a gynigir, o'u cwrw arobryn i win a byrbrydau.

Dywedodd Glenn White, Rheolwr Gyfarwyddwr Brew Monster, “Cawsom benwythnos prysur gyda’r agoriad mawr ddydd Gwener ac yna roedden ni'n llawn ar gyfer rygbi’r Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyflogi 5 aelod newydd o staff a fydd yn gweithio yn y bar bragdy newydd ac rydyn ni'n gobeithio parhau i dyfu fel bar cwrw crefft cyntaf Caerffili, a'r unig un.”

Dywedodd y Cynghorydd Mrs Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, Economi a Menter: “Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith i sicrhau bod Caerffili yn Lle Gwych i wneud Busnes.

“Rydyn ni'n parhau i gryfhau ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru – ac fel rhan o’r Cronfeydd Canolfannau Trefol rydyn ni wedi gallu dod â nifer o adeiladau canol tref gwag a nas defnyddir ddigon ar draws y Fwrdeistref Sirol yn ôl i ddefnydd.”

Am ragor o wybodaeth am fuddsoddiadau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ewch i:  https://www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau