News Centre

Mae’r Arweinydd wrth ei fodd i agor y Ganolfan Athletau Cymunedol newydd

Postiwyd ar : 04 Maw 2022

Mae’r Arweinydd wrth ei fodd i agor y Ganolfan Athletau Cymunedol newydd
Ymunodd gwesteion arbennig ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, i nodi agoriad swyddogol y ganolfan athletau cymunedol newydd yn Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Oakdale.

Mae'r safle trawiadol wedi bod yn weithredol am gyfnod byr fel cyfleuster ysgol a chymunedol ar gyfer clybiau sirol a chystadlaethau a digwyddiadau ar raddfa fawr.

Gan barhau â’n partneriaeth lwyddiannus â Llywodraeth Cymru, mae’r cyfleuster wedi’i osod drwy sicrhau cyllid gan Grant Canolfannau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Y trac athletau synthetig newydd fydd y cyntaf o'i fath ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a bydd yn galluogi trigolion i hyfforddi trwy gydol y flwyddyn ar yr arwyneb gwydn o ansawdd uchel.

Mae'r trac rhedeg chwe lôn, 300 metr â llifoleuadau hefyd yn cynnwys ardal ychwanegol ar gyfer digwyddiadau athletaidd oddi ar y cae fel naid hir, naid uchel, taflu maen, a gwaywffon. Bydd yr ardal y tu mewn i'r trac yn parhau i fod yn ardal laswelltog er mwyn caniatáu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon amrywiol.

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, “Bydd y cyfleuster newydd yn darparu cyfleuster anhepgorol i drigolion Caerffili y gall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ei ddefnyddio naill ai i aros yn actif neu i hybu eu datblygiad fel athletwyr uchelgeisiol.” 

“Ar hyn o bryd mae Caerffili yn un o ddim ond chwe awdurdod lleol yng Nghymru heb drac athletau – am y rheswm hwn, mae’r cyfleuster hwn yn hanfodol i ddarparu’r adnoddau i’r genhedlaeth nesaf o sêr athletau allu datblygu yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”

Dywedodd James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru, “Mae wedi bod yn uchelgais Gaerffili I gael trac athletau ac mae’n wych gweld y cyfleuster hwn bellach ar agor a rhoi lle i aelodau AC Cwm Rhymni a’r gymuned hyfforddi a mwynhau athletau. Rydyn ni’n cyfrif i lawr i Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022 ym mis Gorffennaf a rydym yn gobeithio fydd y gemau yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd a gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn gyforiog o blant a phobl ifanc yn rhoi cynnig ar athletau dros yr haf.

Ein huchelgais yw i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru gael cyfleuster athletau pwrpasol, ac i bawb gael mynediad at gyfleoedd lleol i hyfforddi. Rydym yn gweld elw cymdeithasol gwych ar fuddsoddiad o’r cyfleusterau hyn gyda phobl o bob oed yn eu defnyddio i hyfforddi a hybu eu hiechyd a’u lles.”

Dywedodd Olympiad Joe Brier, “Rwyf wedi gwneud llawer o ymweliadau ysgol ers dychwelyd o Gemau Olympaidd Tokyo, ac rwyf wrth fy modd yn gweld brwdfrydedd plant pan fyddant yn rhoi cynnig ar athletau. Mae wedi bod yn wych gweld y plant yn mwynhau bod yma ar drac newydd Oakdale heddiw. Mae cael mynediad lleol i drac mor ddefnyddiol i glybiau ac athletwyr, a rwy’n gobeithio y bydd y cyfleuster hwn yn ysbrydoli ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o athletwyr ifanc ar eu taith.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd  Philippa Marsden, “Roeddwn i bob amser yn cystadlu mewn athletau a rasys traws gwlad fel plentyn yn yr ysgol. O 11 i 16 oed, roeddwn i'n cystadlu'n aml mewn rasys 800m, 1500m a'r rasys traws gwlad hirach. 

Mae agor trac Athletau yn sir Caerffili yn rhoi cyfle gwych i athletwyr o bob gallu. Bydd y trac hwn yn galluogi oedolion a phlant sydd â diddordeb mewn athletau, boed yn athletwyr difrifol neu fel ffordd o gadw'n heini, i ddefnyddio cyfleuster lleol heb orfod teithio allan o'r fwrdeistref.

Bydd y trac yn Oakdale hefyd yn rhoi cyfle i'r gymuned gadw'n heini, cadw'n actif a chynnal ffordd iach o fyw. Mae’n gyfle gwych i oedolion a phlant o bob gallu gymryd rhan mewn athletau. Bydd hyn hefyd yn darparu canolfan gymdeithasol wych i bobl y gymuned leol sydd â diddordeb cyffredin mewn athletau a ffitrwydd”.

Am ragor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden actif sydd ar gael yn eich ardal chi – ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau