News Centre

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

Postiwyd ar : 03 Maw 2022

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2022.

Mae'r cynllun ar gyfer 2022/23 yn cynnig 50% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'u meddiannu, ond £110,000 yw'r uchafswm y gall pob busnes wneud cais amdano ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes yng Nghymru.

Bydd angen i bob busnes cymwys lenwi ffurflen ddatganiad ar-lein a fydd ar gael ar wefan y Cyngor erbyn canol mis Mawrth. Mae hyn yn golygu y bydd biliau blynyddol ar gyfer 2022/23 yn cael eu rhoi cyn y bydd modd rhoi'r rhyddhad ardrethi hwn. Fodd bynnag, bydd y Tîm Ardrethi Busnes yn ceisio prosesu ffurflenni datganiad sy'n cael eu cyflwyno trwy ein gwefan cyn gynted â phosibl fel bod biliau diwygiedig yn cyrraedd busnesau fel mater o frys. Bydd y Tîm yn anfon e-bost at drethdalwyr busnes a allai fod yn gymwys pan fydd y ffurflen ar-lein ar gael.

Am ragor o fanylion, darllenwch Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2022-23 | Busnes Cymru (gov.wales)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Ardrethi Busnes: TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk

Pwysig: Dylai trethdalwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol ynglŷn â'r rhyddhad ardrethi uchod; ni fydd angen i chi ddefnyddio asiantwyr ardrethu i weithredu ar eich rhan.



Ymholiadau'r Cyfryngau