Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2022
Y cwmni pensaernïol rhyngwladol, Grimshaw, i greu prosiect nodedig
News Centre
Y cwmni pensaernïol rhyngwladol, Grimshaw, i greu prosiect nodedig
Postiwyd ar : 17 Maw 2022
Mae Cyngor Caerffili wedi llwyddo i benodi'r penseiri o fri byd-eang, Grimshaw, i ddylunio cyfnewidfa nodedig yng nghanol tref Caerffili fel rhan o gynlluniau adfywio sylweddol, a gefnogir gan raglen Llywodraeth Cymru, Trawsnewid Trefi.
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydyn ni'n datblygu ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drwy Fetro De Cymru a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae disgwyl i gyfnewidfa newydd, fodern ac addas i'r diben yng Nghaerffili wasanaethu dros 1 miliwn o deithwyr bob blwyddyn.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae gan dref Caerffili leoliad rhagorol yng nghanol cymoedd de Cymru ac mae ganddi safle treftadaeth o safon fyd-eang gydag un o gestyll canoloesol gorau Ewrop. Mae ganddi gysylltiad da â Chaerdydd a’r Brifddinas-Ranbarth ehangach ac mae gan y dref botensial enfawr ar gyfer twf. Mae gwella hwb cludiant canolog yn y dref yn sylweddol yn rhan hanfodol o'r fformiwla i'n helpu ni i ddatgloi ei photensial llawn.
Ychwanegodd, “Bydd ailfodelu llwyddiannus o'r gyfnewidfa yn gatalydd i gyfleoedd datblygu eraill yng nghanol y dref a bydd, ar yr un pryd, yn helpu tuag at newid dulliau teithio i drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd prosiect y gyfnewidfa yn helpu gosod y sylfaen i helpu'r dref oresgyn heriau economaidd ac ysgogi gweithgarwch pellach i wneud Caerffili yn ganol tref ffyniannus. Rydw i, felly, wedi fy nghyffroi’n fawr gan y prosiect hwn ac rydw i'n awyddus i weld cyfnewidfa drafnidiaeth enghreifftiol yn cael ei datblygu yng nghanol y dref.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Mae gwaith Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan ganolog yng nghynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhwydweithiau trafnidiaeth ledled y wlad wrth annog pobl Cymru i newid y ffordd y maen nhw'n teithio.
“Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd â’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â chyflawni’r gwaith hwn, ac rydw i’n hyderus y bydd y gyfnewidfa fodern, nodedig hon yn cynnig gwerth enfawr i bobl Cymru. Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu unigolion i deithio’n ddi-dor rhwng bysiau, trenau, cerdded a beicio a’i gwneud yn llawer haws i bobl wneud dewisiadau teithio cynaliadwy a fydd o fudd i’n cymunedau a’n hamgylchedd ni.”
Dywedodd Rick Roxburgh, Pennaeth Cyswllt Grimshaw, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein dewis ar gyfer y prosiect trawsnewidiol hwn yng Nghaerffili ac yn rhannu uchelgeisiau Cyngor Caerffili a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer hwb teithio llesol amlfodd ac enghreifftiol. Rydyn ni'n gyffrous i arwain y tîm dylunio [gan gynnwys Hoare Lea, OPS Structures a Momentum Transport] a dechrau’r cydweithredu hwn er mwyn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth a fydd yn gwella cysylltedd y dref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a dod yn rhywbeth y mae pobl Caerffili yn wirioneddol falch ohono.”
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer Caerffili 2035, ewch i
https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y