News Centre

Gwnewch y Pethau Bychain

Postiwyd ar : 01 Maw 2022

Gwnewch y Pethau Bychain
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain newydd, gyda'r nod o wneud y Fwrdeistref yn gynhwysol o ran y Gymraeg.
 
Yn lansio ar 1 Mawrth 2022, mae’r ymgyrch wedi ei hysbrydoli gan yr hyn a dybir yw geiriau olaf Dewi Sant ei hun, “gwenwch y pethau bychain”.
 
Bob mis trwy gydol 2022 bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog trigolion ac aelodau staff i addo gwneud un newid bach i helpu i wella eu defnydd a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg.
 
Bydd addewidion misol yn cynnwys heriau bach y gellir eu gweithredu fel cyfarch rhywun yn Gymraeg, defnyddio'r peiriant arian yn Gymraeg neu wrando ar orsaf radio Gymraeg yn ystod eich taith gymudo yn y bore.
 
Eglura’r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni wrth ein bodd yn lansio’r ymgyrch hon ar Ddydd Gŵyl Dewi. Yn ystod diwrnodau cenedlaethol fel hyn, ac mewn digwyddiadau chwaraeon, mae balchder y Cymry yn aml yn ddiymwad ac rydyn ni fel Sir yn awyddus i sicrhau bod balchder yn atseinio yn y defnydd o’n hiaith frodorol.”
 
Ychwanegodd Anwen Cullinane, Uwch Swyddog Polisi ar gyfer Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Ymgynghori: “P’un a ydych chi’n gwybod rhywfaint o Gymraeg ac angen yr hyder i’w defnyddio’n fwy aml, neu heb siarad gair o Gymraeg erioed, trwy wneud un newid bach efallai y byddwch chi’n synnu ar gymaint y gallwch chi ei ddysgu.
 
“Bydd yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain hefyd yn cynnwys cyfres o Addewidion Cydraddoldeb mewn ymdrech i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle cynhwysol i fyw a gweithio i bawb.”
 
Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain dilynwch @CaerphillyCBC ar Facebook a Twitter.


Ymholiadau'r Cyfryngau