News Centre

Gwaith dymchwel yn dechrau

Postiwyd ar : 07 Maw 2022

Gwaith dymchwel yn dechrau
Bydd siop wag yng nghanol tref Caerffili yn cael ei dymchwel dros yr wythnosau nesaf er mwyn caniatáu i gynlluniau adfywio cyffrous symud ymlaen yn y dyfodol.

Mae gwaith yn cychwyn yr wythnos hon ar ddymchwel hen adeilad Specsavers, 25 Cardiff Road, i helpu gyda chynigion datblygu uchelgeisiol Cyngor Caerffili ar gyfer y dref.

Y gobaith yn y dyfodol yw symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer datblygiad gwesty bwtîc newydd ar y safle gwych sy'n edrych dros y castell.

Mae contractwyr dymchwel eisoes ar y safle yn paratoi'r gwaith mewnol sydd ei angen i baratoi ar gyfer dymchwel yr adeilad yn llawn.

Er mwyn bwrw ymlaen â'r rhaglen ddymchwel, bu'n rhaid cau'r ffordd dros dro ar ran o Park Lane. Yn ogystal, bydd y gorchymyn traffig unffordd yn cael ei ddileu dros dro i helpu trigolion a busnesau i fynd i mewn a dod allan o Park Lane.

Mae disgwyl i'r cau ffyrdd a threfniadau traffig gael eu gosod a byddan nhw yn weithredol o ddydd Mawrth 8 Mawrth am gyfnod o tua 4 wythnos tan ddydd Mawrth 5 Ebrill.


Ymholiadau'r Cyfryngau