News Centre

Canolfan Hamdden Pontllan-fraith – Diweddariad

Postiwyd ar : 16 Meh 2023

Canolfan Hamdden Pontllan-fraith – Diweddariad
Canolfan Hamdden Pontllnfraith.

Rydyn ni'n ymwybodol o drafodaethau parhaus ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â dyfodol y safle. Dyma ddatganiad am sefyllfa bresennol y Cyngor: 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Hamdden, “Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddeall eu gofynion ar gyfer defnyddio canolfan hamdden Pontllan-fraith dros y misoedd nesaf. Rydyn ni wedi adleoli gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig o'r adeilad cyn pandemig COVID-19 er mwyn caniatáu i'r adeilad gael ei ddefnyddio fel canolfan frechu. Mae gwasanaethau hamdden wedi parhau i weithredu dros yr amser hwn, er mewn gwahanol leoliadau, ac mae'r cae 3G wedi parhau i gael ei ddefnyddio ar y safle.

Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo ein cydweithwyr iechyd i ddarparu'r rhaglen frechu a'r gwasanaethau cysylltiedig y maen nhw'n parhau i'w cynnig o'r adeilad. Ar ddiwedd y rhaglen iechyd hanfodol hon, bydd dyfodol y cyfleuster yn cael ei ystyried yn ffurfiol. Bydd y broses benderfynu yn cynnwys ymgynghori ac ymgysylltu cyhoeddus eang cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.”

“Rydyn ni'n ymwybodol o drafodaethau diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfeirio at gau Canolfannau Hamdden Pontllan-fraith a Chefn Fforest. Rydw i'n awyddus i egluro nad yw dyfodol safle Cefn Fforest yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydyn ni'n bwriadu cynnal adolygiad canol tymor o’n Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 10 mlynedd, a fydd yn cynnwys adolygiad o’n holl gyfleusterau ledled y Fwrdeistref Sirol i sicrhau ein bod ni'n darparu darpariaeth fodern, addas i’r diben sy’n bodloni anghenion esblygol ein cymunedau, wrth barhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Bydd adolygiad canol tymor y strategaeth yn cael ei ystyried drwy ein prosesau penderfynu ffurfiol dros yr ychydig fisoedd nesaf a bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu bryd hynny.”



Ymholiadau'r Cyfryngau