Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2024
Gweithgareddau Hanner Tymor Mis Mai
News Centre
Gweithgareddau Hanner Tymor Mis Mai
Postiwyd ar : 21 Mai 2024
Wrth i hanner tymor mis Mai agosáu, mae teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi ar gyfer wythnos o weithgareddau llawn hwyl i ddiddanu'r plant. O anturiaethau yn y pwll nofio i wersylloedd chwaraeon ac anturiaethau yn yr awyr agored, mae rhywbeth at ddant pawb.
Dull Byw Hamdden – Plymiwch i fyd llawn hwyl i'r teulu yn y pwll nofio!
Dechreuwch eich hanner tymor gyda sblash ym mhyllau nofio Dull Byw Hamdden. Mae ein pyllau ni'n cynnig amgylchedd diogel a phleserus i deuluoedd gael hwyl a chadw'n heini. Gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i bob oed a gallu, does dim lle gwell i wneud sblash yr hanner tymor yma.
Mae amserlen nofio hanner tymor mis Mai ar gael yma:
https://bit.ly/4asgKY4
I gadw lle mewn gweithgareddau yn y pwll yn ystod hanner tymor, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
lle bo'n berthnasol neu gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol.
Chwaraeon Caerffili – Gwersylloedd chwaraeon i blant egnïol!
Rydyn ni'n gwahodd plant 7–12 oed sy'n dwli ar chwaraeon i ymuno â'n gwersylloedd chwaraeon yr hanner tymor yma. Dan arweiniad ein hyfforddwyr profiadol, mae ein gwersylloedd ni'n canolbwyntio ar hwyl a datblygu sgiliau, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael profiad gwych. Dewiswch o blith amrywiaeth o wersylloedd, gan gynnwys: -
Gwersyll Pêl-droed – £11.66 y dydd:
Dydd Mawrth 28 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga
Dydd Mercher 29 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga
Dydd Iau 30 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga a'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
Dydd Gwener 31 Mai, 9am–3pm: Canolfan Hamdden Rhisga a’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
I gadw lle, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu
davies30@caerffili.gov.uk
.
Gwersyll Athletau – £11.66 y dydd:
Cadwch yn heini yn Hwb Athletau Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Oakdale ddydd Mercher 29 Mai a dydd Iau 30 Mai. Pris: £11.66 y dydd. I gadw lle, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu
davies30@caerffili.gov.uk
.
Gwersyll Hoci – £11.66 y dydd:
Dewch draw i gae Hwb Hoci Canolfan Hamdden Sue Noakes ddydd Mawrth 28 Mai o 9am tan 3pm. I gadw lle, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 815511 neu
seaboc@caerffili.gov.uk
.
Cynllun Chwaraeon Anabledd – £9.60 y dydd:
Dewch i brofi hwyl chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Sue Noakes ddydd Mercher 29 Mai o 10am tan 3pm. Rhowch gynnig ar chwaraeon amrywiol gyda'n hyfforddwyr mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. I gadw lle, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 863072 neu
ChwaraeonCaerffili@caerffili.gov.uk
.
Anturiaethau Caerffili – Archwiliwch yn yr awyr agored!
Rhyddhewch ymdeimlad eich plentyn o antur gyda Diwrnodau Antur Anturiaethau Caerffili. Maen nhw'n cael eu cynnal ddydd Mawrth 28 Mai, dydd Mercher 29 Mai a dydd Iau 30 Mai, 9.30am–3.30pm, ac mae pob diwrnod yn addo cyffro ac archwilio. Gyda phob diwrnod yn llawn sgiliau byw yn y gwyllt, teithiau cerdded antur, canŵio a rhwyf-fyrddio yng Nghoedwig Cwmcarn, maen nhw'n addo cyffro ac archwilio. Mae'r diwrnodau antur hyn yn addas ar gyfer plant 7–12 oed, ac yn costio £28 y dydd.
I gadw lle yn y Diwrnodau Antur i Blant Iau, defnyddiwch
ap Dull Byw Hamdden
, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 01495 271234 neu
sheric@caerffili.gov.uk
.
Peidiwch â gadael i egwyl hanner tymor fynd heibio heb wneud atgofion bythgofiadwy! Ymunwch â ni am wythnos o gyffro ac antur ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, defnyddiwch fanylion cyswllt y gweithgaredd sydd wedi'u darparu.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
Tynnu pont droed Gorsaf Caerffili
Newidiadau i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn destun adolygiad
Parti Traeth Coed Duon yn denu miloedd i ganol y dref
Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y