News Centre

​Datgelu cynlluniau ar gyfer ‘ysgol fwy’ a hwb cymunedol wedi'u rhannu

Postiwyd ar : 14 Meh 2023

​Datgelu cynlluniau ar gyfer ‘ysgol fwy’ a hwb cymunedol wedi'u rhannu

Gallai ysgol gynradd newydd o'r radd flaenaf gael ei hadeiladu yn Rhymni fel rhan o gynlluniau cyffrous sydd wedi'u datgelu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos hon.

Mae cynigion wedi cael eu cyhoeddi i greu adeilad ysgol newydd modern, cynaliadwy sy’n cynnwys cyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned ehangach. 

Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn adeilad  deuddiben newydd.

Bydd Pwyllgor Addysg y Cyngor yn ystyried symud y cynlluniau yn eu blaenau mewn cyfarfod yr wythnos nesaf (ddydd Mawrth 20 Mehefin).

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg y Cyngor, “Y cynnig hwn yw’r bennod gyffrous nesaf yn ein rhaglen uchelgeisiol ‘Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’, sydd eisoes wedi sicrhau manteision sylweddol ledled y Fwrdeistref Sirol. Rwy’n siŵr y bydd trigolion Cwm Rhymni Uchaf yn croesawu’r cynigion beiddgar hyn i ddarparu amgylchedd dysgu modern sy'n addas at y diben, ar gyfer pobl ifanc a defnydd cymunedol ehangach yn y dyfodol.”

Byddai’r ysgol newydd yn cael ei dylunio i wneud y mwyaf o seilwaith lleol, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni a bodloni gofynion Ysgol Garbon Sero Net Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn rhan o gam nesaf rhaglen Band B ‘Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’ y Cyngor, sydd eisoes wedi darparu nifer o gynlluniau gwella ysgolion llwyddiannus ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd gofyn i aelodau’r pwyllgor gytuno i fynd ymlaen i’r cam Achos Busnes Amlinellol gyda Llywodraeth Cymru a symud y cynllun ymlaen i’r cam nesaf.



Ymholiadau'r Cyfryngau