News Centre

Eich SGILIAU, Eich DYFODOL: rhaglen ddeuddydd lwyddiannus ar gyfer cyn-filwyr a’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog

Postiwyd ar : 12 Meh 2023

Eich SGILIAU, Eich DYFODOL: rhaglen ddeuddydd lwyddiannus ar gyfer cyn-filwyr a’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog
Gyn-filwyr, unigolion sy’n gadael y lluoedd arfog, a theuluoedd y bobl hynny, dyma gyflwyno Eich SGILIAU, Eich DYFODOL, sef rhaglen ddeuddydd ar gyfer cyn-filwyr, unigolion sy’n gadael y lluoedd arfog, a theuluoedd y bobl hynny, sy’n ystyried gyrfa newydd yn y Gwasanaeth Sifil.

Roedd Glynne Jones CBE, Pennaeth Lle Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad menter gyffrous yr wythnos hon, sydd â’r nod o gysylltu â chyn-filwyr lleol, unigolion sy’n gadael y lluoedd arfog, a theuluoedd y bobl hynny i egluro cyfleoedd gyrfa o fewn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Bwriad y digwyddiad arloesol hwn oedd cyflwyno’r rhaglen a gafodd ei dylunio’n strategol gyda’r nod o gynorthwyo cyn-filwyr, unigolion sy'n gadael y lluoedd arfog a’u teuluoedd nhw i archwilio’r gwaith sy'n cael ei wneud gan y gwasanaeth sifil a’r sector cyhoeddus ehangach.

Cafodd ei sefydlu a’i arwain gan Kim Ann Williamson MBE, Cynghorydd Strategol i Benaethiaid Lle yng Nghymru, a gafodd ei chynorthwyo gan ystod o Adrannau’r Gwasanaeth Sifil, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Roedd y rhaglen ddeuddydd yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb cynhwysfawr mewn partneriaeth ag adrannau’r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru a Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 5 a 6 Mehefin 2023.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle amhrisiadwy i gael mewnwelediad i gyfleoedd gyrfa amrywiol ac i gael cymorth ymarferol i helpu arfogi nhw wrth ymgeisio am rôl newydd.

Dywedodd Kim Ann, “Roedd hwn yn gyfle gwych ac yn fraint cael gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o’r un anian ar draws y Gwasanaeth Sifil a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru i gyflwyno’r rhaglen hon y mae mawr ei hangen i gynorthwyo cymuned y lluoedd arfog i ddeall y gwahanol rolau sydd ar gael.”

Roedd y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, yn bresennol ar gyfer y rhaglen ddeuddydd. Dywedodd, “Mae'n fenter mor werthfawr i unrhyw unigolyn sy’n gadael y gwasanaeth, cyn-filwr, neu aelodau o’u teuluoedd nhw, sy’n ystyried rôl gyda’r gwasanaeth sifil. Diolch, Kim Ann, am eich egni a’ch brwdfrydedd chi wrth gydlynu hyn, a’ch tîm chi am ei ddarparu.”

Dywedodd Teresa Heron, Eiriolwr Cymunedol Cyfamod y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae'n wych gweld bod rhaglen ar waith i gynorthwyo a dangos i gyn-filwyr, unigolion sy'n gadael y lluoedd arfog, a theuluoedd y bobl hynny, bod cyfleoedd iddyn nhw gymryd y cam nesaf gan ddechrau gyrfa newydd o fewn y gwasanaeth sifil. Diolch i bawb a gymerodd ran i wneud hyn yn bosibl.”

Mae Eich SGILIAU, Eich DYFODOL yn adlewyrchu ymrwymiad Penaethiaid Lle yng Nghymru i amrywiaeth, cynhwysiant a chyfleoedd cyfartal i bawb. Mae cyn-filwyr, unigolion sy’n gadael y lluoedd arfog, a theuluoedd y bobl hynny, yn dod â chyfoeth o brofiad, rhinweddau arweinyddiaeth, ac ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus, gan eu gwneud nhw'n asedau gwerthfawr o fewn y Gwasanaeth Sifil.

Gwybodaeth gyswllt:
Tîm Penaethiaid Lle Cymru
Georgia Butler
georgia.butler@voa.gov.uk
0300 050 1519


Ymholiadau'r Cyfryngau