News Centre

CBS Caerffili – Datganiad ynghylch Tŷ Llwyd

Postiwyd ar : 29 Meh 2023

CBS Caerffili – Datganiad ynghylch Tŷ Llwyd

Dywedodd llefarydd ar ran CBS Caerffili, “Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wrth i'r ymchwiliad i safle Chwarel Tŷ Llwyd gael ei gwblhau.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau ei ymchwiliad i'r achos o ddŵr halogedig (trwytholch) yn bylchu a ddigwyddodd islaw chwarel Tŷ Llwyd ddechrau mis Ionawr 2023 o ganlyniad i gyfnod hir o law.

“Fe wnaeth y glaw achosi i'r system draenio trwytholch sy'n gwasanaethu'r chwarel orlifo gan arwain at ddŵr a oedd yn cynnwys trwytholch yn gadael y tir o'r enw coetir Pantyffynnon ac yn arllwys i'r briffordd gyhoeddus islaw'r safle.

“Ers y digwyddiad, mae'r Cyngor wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru o ran safle Tŷ Llwyd ac, yn ddiweddar, wedi cynnal trafodaethau cyn gwneud cais i benderfynu a oes angen i ganiatâd gollwng dŵr ffurfiol fod ar waith ar y safle. Bydd angen rhagor o asesiadau technegol i lywio'r broses hon, a bydd y Cyngor yn gweithio gyda'i ymgynghorwyr tir halogedig i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a llunio cynllun rheoli wedi'i ddiweddaru ar gyfer y safle.

“Mae'r Cynghorwyr ward lleol wedi cael eu briffio ynghylch canlyniad yr ymchwiliad, ac mae copi o'r llythyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i rannu â nhw er gwybodaeth.”



Ymholiadau'r Cyfryngau