News Centre

Cais ar gyfer materion a gedwir yn ôl wedi'i gyflwyno ar gyfer cynllun byw bywyd hŷn Rhisga

Postiwyd ar : 14 Meh 2023

Cais ar gyfer materion a gedwir yn ôl wedi'i gyflwyno ar gyfer cynllun byw bywyd hŷn Rhisga
Mae cais ar gyfer ‘materion a gedwir yn ôl’ wedi cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer cynllun byw bywyd hŷn newydd arloesol ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.

Mae cynllunio amlinellol y datblygiad eisoes wedi cael ei gymeradwyo ac mae gwaith wedi dechrau i baratoi'r safle. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y datblygiad newydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli deiliaid contract presennol y Cyngor o gynlluniau tai lloches yn yr ardal a fydd yn cau.   

Rydyn ni wedi ymgynghori â darpar breswylwyr ynglŷn â'r cynlluniau ac, o ganlyniad, mae rhai agweddau ar y dyluniad wedi newid ychydig, sydd wedi'u cynnwys yn y cais ar gyfer 'materion a gedwir yn ôl'. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys mân newid i leoliad yr adeilad, gostyngiad yn yr uchder a newid defnydd yr adeilad gardd cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Tai’r Cyngor, “Mae barn preswylwyr y dyfodol yn allweddol i’r datblygiad newydd ac mae’r cais materion a gadwyd yn ôl yn ein galluogi i fireinio dyluniadau yn unol â’u blaenoriaethau.
 
“Bydd y cynllun byw bywyd hŷn newydd yn wahanol i unrhyw beth yn narpariaeth tai lloches presennol y Cyngor a bydd yn gosod y bar ar gyfer datblygiadau Cartrefi Caerffili yn y dyfodol. Mae ei ddyluniad yn cyfuno arloesedd ag anghenion trigolion, gyda'r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni i leihau allyriadau carbon a chadw costau tanwydd mor isel â phosibl. Mae’r dyluniad hefyd yn ymgorffori ystod eang o fannau cymunedol dan do ac awyr agored, i wella iechyd a lles preswylwyr a hwyluso rhyngweithio â’r gymuned ehangach.”
 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau