News Centre

Ailddatblygiad stryd amlwg yng nghanol tref Caerffili wedi'i gymeradwyo fel rhan o gynllun Caerffili 2035

Postiwyd ar : 30 Meh 2023

Ailddatblygiad stryd amlwg yng nghanol tref Caerffili wedi'i gymeradwyo fel rhan o gynllun Caerffili 2035
Mae cynlluniau ailddatblygu ar gyfer Stryd Pentre-baen Caerffili wedi’u cymeradwyo fel rhan o gynllun adfywio uchelgeisiol Caerffili 2035 i drawsnewid canol tref Caerffili. Mae prosiect adfywio Stryd Pentre-baen wedi’i wneud yn bosibl diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chymorth gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd natur adfeiliedig yr adeiladau, sydd wedi arwain at lai o ymwelwyr i’r rhan hon o ganol y dref ac wedi cael effaith negyddol ar fusnesau presennol, yn cael eu gwella’n sylweddol i greu datblygiad defnydd cymysg cyffrous a fydd yn gynllun blaenllaw ar gyfer Canol Tref Caerffili.

Dywedodd y Cynghorydd James Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Bydd yr ailddatblygiad arfaethedig yn enghraifft o astudiaeth achos ar gyfer datblygiadau canol tref yn y dyfodol a bydd yn helpu i ddenu buddsoddiad pellach i Gaerffili. Ers nifer o flynyddoedd, mae trigolion wedi siarad am yr angen i ailddatblygu pen uchaf y dref, felly dyma beth rydym yn bwriadu ei wneud. Gobeithiwn y bydd y cynlluniau a gymeradwywyd heddiw yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus i drawsnewid canol y dref ac ysgogi twf economaidd. Gyda Ffos Caerffili hefyd yn cymryd camau breision ymlaen, mae cynllun Caerffili 2035 yn dwyn ffrwyth.”

Nod Linc Cymru yw adeiladu 73 o fflatiau, cymysgedd o rent cymdeithasol a rhent y farchnad, a saith uned fasnachol newydd i ddenu amrywiaeth o fusnesau. Bydd y datblygiad yn trawsnewid yr ardal yn Stryd Pentre-baen ac o'i chwmpas gyda thri adeilad newydd a mannau cyhoeddus newydd i ymwelwyr a thrigolion eu mwynhau.

Dywedodd Siân Diaz, Cyfarwyddwr Datblygu Linc Cymru: “Dim ond pan fydd yr holl bartneriaid yn cydweithio tuag at yr un weledigaeth y mae prosiectau fel hyn yn llwyddiannus. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi meithrin perthynas gref â’r cyngor a chyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn sicrhau bod manteision y datblygiad hwn yn cyfateb i nodau Prif Gynllun Caerffili 2035.

“Bydd y penderfyniad hwn gan y cyngor yn arwain at drawsnewid y rhan hon o ganol tref Caerffili. Mae’r holl nodweddion hyn yn mynd i ddod â naws newydd bywiog i’r ardal a rhoi rheswm arall i ymwelwyr ddod i Gaerffili.

“Mae argraffiadau’r artist yn ysbrydoledig ac yn dangos yr hyder sydd gennym ni a’n partneriaid i helpu’r dref i ffynnu yn y dyfodol.

“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau mawr i lawer o bobl o ran sut a ble
maen nhw’n gweithio. Bydd man cydweithio ar y safle hwn yn darparu mwy o fuddion ac yn denu
pobl i weithio a mwynhau’r siopau, bariau a bwytai cyfagos.”
 
Mae cynlluniau Stryd Pentre-baen yn bwriadu:
• Cynnwys cyfleoedd masnachol newydd ar lefel stryd a fydd yn denu busnesau creadigol.
• Cynnig fflatiau dwysedd uchel, rhent cymdeithasol, rhent preifat, a fflatiau ar werth ar y farchnad.
• Hyrwyddo integreiddio gwaith, cartref, siopa, cludiant a mannau cyhoeddus yng Nghaerffili.
• Cwrdd â dyheadau ac anghenion y gymuned leol a chenedlaethau'r dyfodol.
• Lleihau'r defnydd o ynni a lleihau'r ôl-troed carbon cyffredinol i ddarparu cartrefi newydd a fydd â chyfradd Sero Carbon Net ac EPC A.
• Sicrhau y bydd y dirwedd yn integreiddio systemau draenio cynaliadwy a fydd yn rheoli dŵr ffo wyneb, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn helpu i greu man amwynder o ansawdd uchel i drigolion a'r cyhoedd.


Ymholiadau'r Cyfryngau