News Centre

Pobl yn llenwi'r strydoedd yn ystod Pride Caerffili cyntaf

Postiwyd ar : 30 Meh 2023

 Pobl yn llenwi'r strydoedd yn ystod Pride Caerffili cyntaf
Roedd Pride Caerffili yn llwyddiant ysgubol wrth i ganol tref Caerffili gael ei llenwi â baneri a fflagiau'r enfys i ddathlu ei digwyddiad Pride cyntaf erioed.
 
Croesawodd canol tref Caerffili a chanolfan siopa Cwrt y Castell nifer rhagorol o ymwelwyr ar y diwrnod – 23,957. Roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Rhedwyr Caerffili wedi cofrestru ymlaen llaw i fod yn rhan o'r dathliad ond death cannoedd mwy i ganol y dref ac ymuno yn y dathliadau ar y diwrnod.
 
Dechreuodd y dathliad diwrnod o hyd, ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, gyda gorymdaith drwy ganol y dref a ddechreuodd yn Ysgol Sant Martin. Roedd yr orymdaith yn llawn pobl o bob sefydliad a chymuned, a buon nhw'n cerdded i lawr Cardiff Road a mynd heibio castell eiconig Caerffili cyn gorffen ym maes parcio'r Twyn am adloniant cyffrous.
 
Roedd Côr Meibion Hoyw De Cymru, RecRock, Jordropper a Myst Fortune ymhlith y nifer o berfformwyr a gamodd i'r llwyfan adloniant drwy gydol y dydd. Roedd stondinau bwyd a diod ar hyd yr ardal ac wedi gwneud y digwyddiad yn ddathliad llawn.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Dyma'r digwyddiad Pride cyntaf wedi'i arwain gan gyngor yng Nghymru gyfan ac rydyn ni'n falch o hyrwyddo cymuned o gynhwysiant. Mae'r digwyddiad yma i bawb ac mae'n bwysig iawn i ni. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ar y strydoedd, yn dangos cefnogaeth ac yn cymryd rhan. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cymryd o'r digwyddiad fod modd iddyn nhw fod pwy maen nhw eisiau bod, pryd bynnag, ble bynnag.”
 
Hoffem ni ddiolch i'r noddwyr; Undeb Unite, Unsain Caerffili, Heddlu Gwent, Calon Law, Protector Comms, Castell Howell a Robert Price.  Mae diolch arbennig i Principality, Cyngor Tref Caerffili a GE Aerospace am eu rhoddion ariannol hael. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi'r digwyddiad ac wedi helpu gwneud Pride Caerffili yn llwyddiant.
 
Bydd Pride Caerffili yn dychwelyd yn 2024 ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin, bydd rhagor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Ymholiadau'r Cyfryngau