News Centre

PAS Nutrition: cwmni maeth chwaraeon wedi'i leoli yn Rhymni yn cael cymorth gan Dîm Menter Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 22 Meh 2023

PAS Nutrition: cwmni maeth chwaraeon wedi'i leoli yn Rhymni yn cael cymorth gan Dîm Menter Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Pro Athlete Supplementation (PAS) Nutrition yn gwmni maeth chwaraeon wedi'i leoli yn Rhymni, a gafodd ei sefydlu yn 2006 gan Jonathan Williams, BSc, Maethegydd Sgwad Genedlaethol URC a Darren Campbell, MBE, Medalydd Olympaidd Aur ac Arian. 

Ers 2016, mae cyn-chwaraewr Undeb Rygbi Cymru Sam Warburton hefyd wedi bod yn gyfranddaliwr yn y cwmni, yn ogystal â gweithredu fel llysgennad brand. Mae'r cwmni yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion maeth chwaraeon, gan gynnwys bariau ac ysgytlaethau protein, atchwanegiadau protein maidd, geliau a siotiau ynni, a llawer mwy. Mae'r cwmni wedi gweithredu fel Cyflenwr Swyddogol yr Ewros, Undeb Rygbi Cymru a'r Llewod am y ddwy daith ddiwethaf. Mae PAS Nutrition hefyd yn gweithio gydag academi hyfforddi Sam Warburton, SW7 ac yn cyflenwi iddyn nhw.

Fe gafodd PAS Nutrition £12,775 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo i PAS Nutrition drwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y swm yma ei ariannu gan arian cyfatebol gan PAS Nutrition i brynu fforch godi o'r radd flaenaf i helpu gyda symud swm cynyddol o stoc ac archebion. Mae'r cyllid hwn hefyd wedi helpu i ddiogelu 3 swydd a chreu 1 swydd newydd.

Mae cynlluniau ar gyfer tyfu marchnad allforio yn y dyfodol, gan gynnwys agor yn Ne Affrica, y Dwyrain Canol, India ac Awstralia i gyrraedd marchnadoedd newydd a chreu busnes newydd. Ar hyn o bryd, mae PAS yn ddosbarthwr unigryw i Qatar.

Dywedodd Jon Williams, "Roedd y broses o weithio gyda'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes yn hawdd, yn effeithlon, ac yn syml ac roedd yn teimlo fel eu bod nhw wir eisiau helpu." Cefais lawer o gymorth yn ystod y broses. Mae'r wagen fforch godi am fod yn amhrisiadwy, gan na fydden ni'n gallu llwytho tryciau hebddo."

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod y Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae'n wych i glywed sut mae PAS Nutrition yn gweithredu o'u pencadlys yn Rhymni. Hefyd, roedd hi'n wych siarad gyda Sam am y rôl mae'n ei chwarae gyda'r cwmni a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o gynorthwyo PAS Nutrition drwy Gronfa Fenter Caerffili."


Ymholiadau'r Cyfryngau