News Centre

Gwaith celf ‘gwyrdd’ newydd yn Ysgol Gynradd Graig-y-Rhaca

Postiwyd ar : 14 Meh 2023

Gwaith celf ‘gwyrdd’ newydd yn Ysgol Gynradd Graig-y-Rhaca
Mae gosod gwaith celf newydd yn Ysgol Gynradd Graig-y-Rhaca yng Nghaerffili yn dathlu'r amgylchedd a'r gymuned.
 
Fe wnaeth disgyblion o’r ysgol weithio gyda’r gymuned leol a’r artist Stephanie Roberts i ddylunio a datblygu’r cerflun â thema amgylcheddol. Cafodd cyllid ar gyfer y prosiect ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, trwy ei raglen gwelliannau amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
 
Mae’r dyluniad dail mosaig, sy’n ymgorffori’r neges ‘We respect our environment’, wedi’i osod wrth fynedfa’r ysgol. Dywedodd yr artist Stephanie o dde Cymru, “Ar gyfer y prosiect hwn, roedd rhaid i’r plant ymdaflu eu hunain yn eu pwnc ac yna ymgysylltu â’u teuluoedd a’u ffrindiau i ddeall yn llawn bod y gwaith celf mor bwysig o ran y gymuned â nhw.”
 
Fe wnaeth y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai ychwanegu, “Mae'r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru wedi gweld dros £260 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cartrefi sy’n eiddo i’r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol a chymunedau lleol. Mae’r gwaith celf cyhoeddus yn Ysgol Gynradd Graig-y-Rhaca yn enghraifft wych o sut mae Swyddogion Amgylcheddol wedi ymgysylltu â’r gymuned i ddatblygu prosiect unigryw a fydd yn ganolbwynt am nifer o flynyddoedd i ddod.”


Ymholiadau'r Cyfryngau