News Centre

Ysgol Nant y Parc yn ennill Marc Safon Ysgolion o'r Radd Flaenaf

Postiwyd ar : 13 Meh 2023

Ysgol Nant y Parc yn ennill Marc Safon Ysgolion o'r Radd Flaenaf
Mae Ysgol Gynradd Nant y Parc wedi’i hachredu â Marc Safon Ysgolion o’r Radd Flaenaf ar 23 Mai, sy’n golygu mai nhw yw’r ysgol gynradd gyntaf yng Nghymru i gyflawni'r wobr hon ac ymuno â rhwydwaith o ychydig dros 140 o ysgolion yn y DU.

Mae'r Marc Safon yn cael ei ddyrannu gan yr elusen addysg ‘World Class Schools Quality Mark’ (WCSQM), sydd â fframwaith asesu unigryw i asesu’r myfyrwyr, nid yr ysgol, o ran sgiliau a chymwyseddau o’r radd flaenaf. Y cynsail yw, os yw'r ysgol wir o'r radd flaenaf, dylai'r myfyrwyr allu dangos hynny ym mha bynnag gyd-destun maen nhw'n canfod eu hunain.

Mae Nant y Parc yn un o lond llaw o ysgolion gwladol annethol lle mae'r Marc Safon wedi'i ddyrannu iddyn nhw ym mlwyddyn academaidd 2023, yn dilyn proses asesu heriol lle bu myfyrwyr yn gweithio i nodi ac arddangos nodweddion o'r radd flaenaf, gan ddefnyddio fframwaith datblygu cymeriad WCSQM fel meincnod. Mae’r fframwaith yn amlygu nodweddion ar draws meysydd unigol, gan gynnwys arweinyddiaeth, y gymuned, dysgu a'r gweithle ar gyfer myfyrwyr uwchradd, a'r nodweddion ‘rwy’n dysgu’, ‘rwyf yn’ ac ‘rwy’n teimlo’ ar gyfer myfyrwyr cynradd. Dros amser, dangosodd myfyrwyr sut oedden nhw wedi bodloni pob nodwedd naill ai yn yr ysgol, gartref neu yn eu cymuned leol, gan lanlwytho tystiolaeth a chrynodeb ar gyfer pob nodwedd a gafodd eu cwblhau trwy ap WCSQM ar y rhyngrwyd, BeWorldClass.

Unwaith y bydd nifer sylweddol o fyfyrwyr yn profi nodweddion o'r radd flaenaf, mae WCSQM yn asesu portffolios gorffenedig y myfyrwyr trwy broses asesu sydd wedi'i harwain gan fyfyrwyr.

Dywedodd Miranda Perry, Cyfarwyddwr WCSQM, “Yn WCSQM, rydyn ni'n credu’n llwyr mai’r myfyrwyr sy’n gwneud ysgol, ac y bydd ysgol sy’n blaenoriaethu datblygu nodweddion o’r radd flaenaf ei myfyrwyr yn ysgol o'r radd flaenaf bob amser. Bydd y sgiliau a’r cymwyseddau mae’r myfyrwyr hyn wedi’u dangos yn eu helpu nhw i ragori mewn unrhyw amgylchedd, ac yn eu gwneud nhw'n ymgeiswyr delfrydol ar gyfer pa bynnag gwrs addysg bellach / llwybr gyrfa maen nhw'n dewis ei ddilyn.

“Dyma ddinasyddion o’r radd flaenaf y genhedlaeth nesaf, ac rydyn ni'n hynod falch o’u gwobrwyo nhw am eu cyflawniadau hyd yn hyn.”

Dywedodd Emma Winter, Arweinydd y Prosiect ac athrawes yn Ysgol Gynradd Nant y Parc, “Rydyn ni mor falch o’r cyflawniad hwn ac mae ein disgyblion a’n rhieni ni wedi dod at ei gilydd i lunio’r portffolios mwyaf anhygoel sy’n arddangos sgiliau, rhinweddau a natur unigryw ein dysgwyr ni. Heb os, mae Ysgol Gynradd Nant y Parc yn lle arbennig i weithio ynddo ac mae ein dysgwyr ni'n llwyr ddangos rhinweddau o’r radd flaenaf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Rydw i’n falch iawn o glywed am gyflawniad diweddar Ysgol Gynradd Nant y Parc. Dylai’r disgyblion fod yn falch iawn o’u hunain am ddangos ymddygiad a nodweddion o’r radd flaenaf.”

Cafodd WCSQM ei sefydlu fel elusen yn 2018 er mwyn achredu myfyrwyr trwy ddefnyddio fframwaith o sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu mewn economi fyd-eang ddatblygol. Nod yr elusen yw cynyddu cyfleoedd fel bod pob myfyriwr yn gallu datblygu nodweddion o'r radd flaenaf y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, waeth beth fo'u hamgylchiadau neu gefndir, i'w helpu i gyflawni eu potensial.

Yn ôl diffiniad, ni all pob ysgol fod o'r radd flaenaf. Felly, nod yr elusen yw cau ei rhwydwaith i ysgolion newydd erbyn mis Gorffennaf 2023, fel mai dim ond goreuon y wlad sy’n cael eu cynrychioli.


Ymholiadau'r Cyfryngau