News Centre

Grantiau ar gael ar gyfer cartrefi gwag y sector preifat

Postiwyd ar : 21 Meh 2023

Grantiau ar gael ar gyfer cartrefi gwag y sector preifat
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa perchnogion cartrefi gwag fod dal amser i wneud cais am grant i adnewyddu eu heiddo.

Drwy raglen genedlaethol Grant Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu eiddo gwag i'w gwneud nhw'n ddiogel i fyw ynddyn nhw a gwella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae'r grant ar gael ar gyfer berchen-feddianwyr i adnewyddu cartrefi gwag sydd wedi bod yn wag ers o leiaf 12 mis. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Gwneud cais am grant cartrefi gwag

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae mynd i'r afael â chartrefi gwag yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Yn ogystal â bod yn falltod yn ein cymunedau lleol, mae cartrefi gwag hefyd yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cynrychioli adnodd sy'n cael ei wastraffu yn ystod yr argyfwng tai cenedlaethol presennol.

“Rwy'n annog perchnogion cartrefi gwag i gysylltu â thîm pwrpasol y Cyngor i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i sicrhau bod eu heiddo nhw'n cael defnydd buddiol unwaith eto.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, cysylltwch â thîm pwrpasol y Cyngor ar 01443 811378 neu TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau